Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dedfrydwyd saith aelod o Grŵp Troseddau Cyfundrefnol yn Llys y Goron Caerdydd ar 22ain Medi yn dilyn ymgyrch a arweiniwyd gan Tarian, yr Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol ar gyfer De Cymru.
Roedd Ymgyrch Cruz yn ymchwiliad cymhleth a oedd yn mynd i'r afael â chyflenwad cyfanwerthol y grŵp o gocên ar draws rhanbarth De Cymru. Arweinydd y Grŵp Troseddau Cyfundrefnol oedd Joshua Matthews o Bontyclun, a oedd yn prynu ei gyffuriau gan nifer o gyflenwyr uwch.
Ar 21ain Gorffennaf 2023, gwelwyd Vincent Aquilina, y gwyddwn ei fod yn gyd-droseddwr gyda Matthews, yn gadael cyfeiriad yn ardal Caerau, Caerdydd yn cario bag. Aeth Aquilina i gyfarfod Matthews a rhoi'r bag iddo ac yna rhoddwyd y bag mewn Range Rover a ddefnyddiwyd gan Matthews.
Arestiwyd Joshua Matthews yn fuan wedyn ar yr A4119 yn Meisgyn, ar ôl iddo geisio dianc rhag yr heddlu, gan achosi niwed i dros 20 o gerbydau eraill ar y ffordd yn y broses. Mae ei weithrediadau wedi rhoi nifer o aelodau o'r cyhoedd mewn perygl ac wedi achosi anafiadau a thrallod i eraill.
Atafaeloedd swyddogion 4 cilogram o gocên, gyda gwerth o £400,000 ar y stryd o'r bag a roddodd Aquilina i Matthews.
Yna, cynhaliodd swyddogion chwiliad yn y cyfeiriad yn Caerau a daethpwyd o hyd i 1.5 cilogram ychwanegol o gocên, 3 cilo o blanhigyn canabis ac eitemau ychwnaegol a ddefnyddir wrth gyflenwi cyffuriau. Archwiliwyd ffôn a oedd wedi'i chysylltu â Matthews a gwelwyd bod tystiolaeth arni o ddelio mewn cyffuriau sylweddol o fewn sgyrsiau neges destun.
O ganlyniad i Ymgyrch Cruz, arestiwyd saith unigolyn a chawsant eu dedfrydu yn dilyn hynny am eu rhan yn y troseddu.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Lloyd Williams o Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian: "Roedd y dynion hyn yn benderfynol o adael i symiau mawr o gyffuriau Dosbarth A i dreiddio drwy gymunedau De Cymru. Diolch i ymdrechion diflino tîm ymroddedig o ymchwilwyr, cawsant eu dal ac yn dilyn hyn maent wedi derbyn dedfrydau sylweddol.
"Ein gobaith yw bod y dedfrydau hyn yn atal unrhyw un arall sy'n cymryd rhan, neu sy'n meddwl cymryd rhan, mewn delio cyffuriau."
Mae ymchwiliad pellach o dam y Ddeddf Enillion Troseddau yn mynd rhagddo.