Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Paul Jenkins, 39 oed, wedi ei ddedfrydu i garchar am oes, gydag isafswm o 20 mlynedd yn y carchar, am lofruddio ei ffrind yn ei gartref.
Daethpwyd o hyd i David Green, 61 oed, wedi marw yn ei gartref yn Orchard Court, New Orchard Street, Abertawe gan swyddogion ddydd Sul 9 Ebrill 2023.
Ar 15 Medi 2023, ymddangosodd Paul Jenkins yn y llys a phledio'n euog i lofruddio David Green rywbryd rhwng y 6ed a'r 9fed Ebrill 2023, ynghyd â'r drosedd o feddu ar eitem lafnog yn Abertawe ddydd Gwener 7 Ebrill.
Yn ystod prynhawn dydd Sul 9 Ebrill 2023, aeth Paul Jenkins at swyddogion yng Ngorsaf Heddlu Canol Abertawe. Datgelodd Paul Jenkins ei fod wedi trywanu ei ffrind, David Green, sawl gwaith yng nghartref David, ac nad oedd yn credu ei fod yn dal yn fyw.
Aeth swyddogion i'r cyfeiriad yn Orchard Court gan ddod o hyd i David Green wedi marw, ac wedi dioddef nifer o anafiadau y tybiwyd eu bod wedi cael eu hachosi gan gyllell.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd, Paul Raikes:
“Roedd yn llofruddiaeth ddisynnwyr gan Paul Jenkings ar ddyn eiddil ac agored i niwed. Cafodd David Green ei lofruddio yn ei gartref gan unigolyn yr oedd yn ymddiried ynddo ac yn ei ystyried yn ffrind. Roedd lefel y trais a ddangoswyd gan Paul Jenkins yn eithafol ac yn profi ei fod yn unigolyn peryglus dros ben.
“Hoffwn ddiolch i aelodau o'r gymuned a roddodd wybodaeth i ni ac a gefnogodd yr ymchwiliad.
“Mae ein meddyliau yn dal gyda theulu a ffrindiau David sy'n galaru o'i golli, ac rydym yn parhau i'w cefnogi. Er nad yw'r ddedfryd heddiw yn dod â David yn ôl, rwy'n gobeithio ei fod yn cynnig cysur i'w deulu a'i ffrindiau fod y dyn a fu'n gyfrifol wedi'i garcharu."