Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ym mis Mai 2023, cafodd yr Heddlu wybod am blentyn yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr a oedd wedi dioddef gorddos posibl o gyffuriau.
Ar ôl gwneud ymholiadau, llwyddodd swyddogion i leoli'r cyflenwr a chyflwyno warant brys i archwilio cyfeiriad cartref David Rodgers, 51 oed yn Mill Street, Maesteg.
Atafaelwyd gwerth dros £8,000 o gocên a gwerth dros £2,200 o Ganabis o'r cyfeiriad. Atafaelwyd cyfarpar cyffuriau eraill hefyd gan gynnwys clorian a bagiau cyflenwi cyffuriau.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Lia Jones, "Mae hyn yn tynnu sylw at y peryglon amlwg a'r effaith a gaiff cyflenwi cyffuriau ar ein cymunedau. Dyma pam ein bod yn gweithredu ar unrhyw wybodaeth a gawn gan y gymuned oherwydd y risgiau y mae'r math hwn o drosedd yn eu hachosi.
Os byddwch yn gweld unrhyw beth yr hoffech roi gwybod amdano, gallwch wneud hynny'n ddienw ar Crimestoppers ar 0800 555111.”
Mae David Rodgers bellach wedi'i garcharu am 60 mis am feddu ar gocên, canabis a diazepam gyda'r bwriad o'u cyflenwi.