Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Daeth swyddogion o hyd i glorian bwyso, seloffen a 120g o grac cocên, a oedd ar fin cael ei paratoi ar gyfer delio ar y stryd, yng nghegin Ryan Robbins.
Gweithredodd swyddogion warant yng nghyfeiriad cartref Ryan Robbins brynhawn dydd Gwener, 15 Medi.
Yn y gegin, daeth swyddogion o hyd i glorian bwyso, seloffen a 120g o grac cocên, a oedd ar fin cael ei baratoi ar gyfer delio ar y stryd.
Gwerth stryd amcangyfrifedig y crac cocên oedd rhwng £6,000 a £7,260.
Cafodd ffôn symudol â negeseuon arno yn hysbysebu argaeledd cyffuriau Dosbarth A, hefyd ei atafaelu.
Cafodd Robbins, 37 oed, o Red House Crescent, ei arestio a'i gyhuddo o fod â chrac cocên yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi, ac am ymwneud â chyflenwi heroin a chrac cocên.
Plediodd yn euog a thair wythnos yn ddiweddarach, ddydd Iau 5 Hydref, yn Llys y Goron Caerdydd, cafodd ei ddedfrydu i bedair blynedd yn y carchar.
Mae gan Heddlu De Cymru ddull gweithredu dim goddefgarwch at ddelio cyffuriau, a dim ond un enghraifft yw'r achos hwn o'r ffordd rydym yn mynd i'r afael ag achosion o ddelio cyffuriau yn y gymuned.
Gallwn weithredu ar y wybodaeth a gawn gan y cyhoedd, ac rydym yn gwneud hynny'n rheolaidd, felly parhewch i gysylltu â ni.
Anogir unrhyw un sydd ag amheuon neu wybodaeth am achosion o ddelio mewn cyffuriau anghyfreithlon i gysylltu â ni.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.