Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dau ddyn o Gaerdydd yn cael eu harestio am ddelio mewn cyffuriau, er iddynt geisio dianc yn gyflym rhag swyddogion yr heddlu.
Mae ffilm camera dashfwrdd o gar yr heddlu yn dangos y dynion yn ceisio dianc rhag y swyddogion drwy yrru am yn ôl yn groes i gyfeiriad y traffig ar ffordd brysur.
Cafodd Antonio Oracko, 19 oed o Cathays a Taylor Barry, 18 oed o Lan yr Afon, eu harestio ar ôl i wybodaeth ddod i law am gar â phlatiau rhif yr amheuwyd eu bod wedi'u clonio.
Mae ffilm camera dashfwrdd o gar yr heddlu yn dangos y dynion yn ceisio dianc rhag y swyddogion drwy yrru am yn ôl yn groes i gyfeiriad y traffig ar ffordd brysur.
Ddydd Mercher, 2 Awst am tua 4.50pm, roedd Tîm Plismona Ffyrdd Heddlu De Cymru yn ardal Glan yr Afon yng Nghaerdydd ar ôl cael gwybod am BMW du cyfres 1 â phlatiau wedi'u clonio.
Gwelodd y swyddogion y BMW wrth y goleuadau traffig ar Clare Road a gwnaethant yrru i fyny'n agos ato i'w atal rhag dianc.
Mewn ymdrech i ddianc, cafodd y BMW ei yrru ymlaen cyn gyrru am yn ôl ar gyflymder, gan wrthdaro â dau gar arall.
Yn ffodus, ni chafodd unrhyw un ei anafu.
Cafodd Barry ei arestio tra'i fod yn sedd y gyrrwr. Rhedodd Oracko i ffwrdd ond cafodd ei ddal ymhen dim.
Daethpwyd o hyd i becyn glas yn cynnwys sawl lapiad o gyffuriau dosbarth A yn agos i'r car, roedd gan Oracko £454 a daethpwyd o hyd i ffôn symudol yn cynnwys negeseuon am gyflenwi cyffuriau Dosbarth A yn y car.
Cafodd eitemau eraill sy'n gysylltiedig â delio mewn cyffuriau megis rhestrau ticio, cloriannau digidol, powdr gwyn, bagiau selio, a ffonau symudol eu hatafaelu o'u cyfeiriadau cartref.
Ymddangosodd y ddau ddyn gerbron Llys Ynadon Caerdydd ddeuddydd yn ddiweddarach.
Cawsant eu cadw yn y ddalfa ac ar ôl pledio'n euog, cawsant eu dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener, 29 Medi.
Cafodd Oracko ei garcharu am bum mlynedd a naw mis am feddu ar grac cocên a heroin gyda'r bwriad o'u cyflenwi, ac am dorri dedfryd flaenorol.
Cafodd Barry ei garcharu am dair blynedd am feddu ar grac cocên a heroin gyda'r bwriad o'u cyflenwi, ac am yrru'n beryglus.
Un enghraifft yn unig yw hon o'r ffyrdd rydym yn mynd i'r afael ag achosion o ddelio mewn cyffuriau yn y gymuned.
Gallwn weithredu ar y wybodaeth a gawn gan y cyhoedd, ac rydym yn gwneud hynny'n rheolaidd, felly parhewch i gysylltu â ni.
Anogir unrhyw un sydd ag amheuon neu wybodaeth am achosion o ddelio mewn cyffuriau anghyfreithlon i gysylltu â ni.
🗪 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
💻 Rhoi gwybod ar-lein https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio
📧 E-bost [email protected]