Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd 31 o bobl eu harestio ac atafaelwyd gwerth amcangyfrifedig o £27,400 yn ystod yr wythnos dwysáu gwaith ar linellau cyffuriau ddiweddaraf.
Mae swyddogion o ardal Heddlu De Cymru wedi arestio 31 o bobl, a diogelu 58 o bobl a oedd yn agored i niwed yn ystod wythnos o weithredu i dargedu ac amharu ar linellau cyffuriau.
Llinellau cyffuriau yw'r enw a roddir i ddisgrifio'r weithred ble bydd grwpiau troseddau cyfundrefnol (OCGs) yn symud a chyflenwi cyffuriau, yn aml o ddinasoedd i mewn i drefi bach ac ardaloedd gwledig.
Mae'r gweithgarwch hwn wedi cyd-daro â'r "wythnos ddwysáu" genedlaethol sy'n cael ei arwain gan yr Asiantaeth Troseddu Genedlaethol. Cynhaliwyd yr wythnos o weithgarwch ddiweddaraf o ddydd Llun 9 Hydref hyd at ddydd Llun 16 Hydref.
Uchafbwyntiau ar draws ardal yr heddlu:
Ymgysylltodd swyddogion hefyd â phlant, rhieni a gweithwyr proffesiynol i dynnu sylw at beryglon ymgymryd â gweithgarwch Llinellau Cyffuriau, a chynhaliwyd sesiynau ymwybyddiaeth o Linellau Cyffuriau i bartneriaid amlasiantaeth ac 11,000 o blant.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Chris Williams, a gyd-gysylltodd yr wythnos o weithgarwch yn Ne Cymru: "Er ein bod yn gweithio drwy gydol y flwyddyn i waredu'r cyffuriau oddi ar y strydoedd, mae'r wythnos hon wedi arwain at ganlyniadau sylweddol.
"Drwy amharu ar linellau cyflenwi a chael gwared ar y rheini sy'n rhan ohono, gallwn wneud cymunedau De Cymru yn fwy diogel.
"Gallwn ond gwneud hyn gyda'r gefnogaeth a'r wybodaeth a gawn gan y cyhoedd, felly rwy'n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am ddelio cyffuriau yn eu cymuned i'n ffonio ar 101. Bydd pob darn o wybodaeth yn bwysig.