Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Carcharu deliwr cyffuriau a gafodd ei ddal â chyffuriau, £1k o arian parod a machete.
Cafodd Corey Fenton, 21 oed, ei arestio gan swyddogion mewn dillad plaen a oedd ar batrôl yn Heol Trelái, Trelái, Caerdydd.
Gwyliodd swyddogion o'r Tîm Troseddau Cyfundrefnol Fenton yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau cyfnewid wrth iddo reidio e-feic o gwmpas yr ardal
nos Fercher, 13 Medi.
Cafodd ei ddal â sawl lapiad o grac cocên a heroin, cyllell a mwy na £1,000 o arian parod.
Cafodd Fenton, sydd o ardal Caerau, ei arestio ac ni atebodd yr un o'r cwestiynau yn ystod y cyfweliad.
Ond, plediodd yn euog yn ystod ei ymddangosiad cyntaf yn y llys a chafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener, 29 Medi, ychydig dros bythefnos ar ôl cael ei arestio.
Cafodd ei garcharu am bedair blynedd am feddu ar gyffuriau crac cocên a heroin gyda'r bwriad o'u cyflenwi, meddu ar eiddo troseddol (£1,074.52 o arian parod), meddu ar eitem lafnog mewn lle cyhoeddus a throseddau gyrru.
Mae gan Heddlu De Cymru ddull gweithredu dim goddefgarwch at ddelio cyffuriau, a dim ond un enghraifft yw'r achos hwn o'r ffordd rydym yn mynd i'r afael ag achosion o ddelio cyffuriau yn y gymuned.
Gallwn weithredu ar y wybodaeth a gawn gan y cyhoedd, ac rydym yn gwneud hynny'n rheolaidd, felly parhewch i gysylltu â ni.
Anogir unrhyw un sydd ag amheuon neu wybodaeth am achosion o ddelio mewn cyffuriau anghyfreithlon i gysylltu â ni.
🗪 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/
💻 Rhoi gwybod ar-lein https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/
📧 E-bost [email protected]
📞 101 neu Crimestoppers yn ddienw 0800 555 111.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.