Stamp amser presennol: 20/07/25 17:02:41
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

South Wales Police force crest / Arwyddlun Heddlu De Cymru

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio am berson sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Sut i ddweud wrthym am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ei glywed
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Mis Hanes Pobl Ddu: Mavis a Daniel

Cynnwys y prif erthygl

Y diweddaraf
Cyhoeddwyd: 14:56 27/10/23

'Fel arweinydd benywaidd du, rwy'n defnyddio fy safle i rymuso ac ysbrydoli eraill, yn enwedig merched, i herio canfyddiadau a chwalu rhwystrau yn nhermau eu datblygiad personol a'u datblygiad proffesiynol.'

Mae Mavis yn gweithio fel Goruchwyliwr Cymunedau yn Abertawe ar hyn o bryd ar ymyrryd yn gynnar ac atal a phlismona mewn ysgolion.

“‘Cefais fy ngeni a'm magu yng Nghymru i rieni o Jamaica. Rwy'n hynod falch o fy nhreftadaeth Garibïaidd ac yn credu bod y diwylliant, y bwyd, a'r gerddoriaeth yn rhan ohonof ac yn fy ngwneud y person ydw i heddiw. Wrth gydnabod fy nhreftadaeth Garibïaidd, rwyf hefyd yn falch o alw fy hun yn Gymraes.

“Wrth dyfu i fyny, roeddwn i'n benderfynol iawn ac yn gwybod ers yn ifanc fy mod i am ymuno â gwasanaeth yr heddlu. Yn ddeunaw oed, ac yn fuan ar ôl cael fy nghanlyniadau Lefel A, roeddwn i'n feichiog gyda fy mab. Newidiodd fy nghynlluniau am gyfnod, ond ni ddaeth fy nyhead o ddod yn swyddog heddlu i ben.

“Yn 2003, gwireddodd fy nyheadau o ymuno â gwasanaeth yr heddlu wedi i mi ymuno â Heddlu De Cymru fel Clerc Ymholiadau'r Orsaf ym Mhort Talbot. Yn 2008, cyflawnais fy nod hirdymor o ddod yn swyddog a dechreuais wasanaethu gyda'r tîm ymateb ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

“Ar ôl treulio chwe blynedd fel rhan o'r tîm ymateb, roeddwn i'n teimlo'n hyderus yn fy ngallu ac astudiais ar gyfer fy arholiad i ddod yn Rhingyll. Ymunais hefyd â Thîm y Gweithlu Cynrychioliadol (y Tîm Gweithredu Cadarnhaol erbyn hyn) yn 2016. O ganlyniad i fy ngwaith o fewn y Tîm, enillais wobr gan yr Heddlu am Amrywiaeth wrth Weithredu a chefais fy enwebu am wobr arall am y Defnydd Gorau o'r Cyfryngau Cymdeithasol.

“Rwy'n falch ac yn cael boddhad o weld pobl rwyf wedi'u cefnogi drwy'r rhaglen Gweithlu Cynrychioliadol (RWF) sydd nawr yn gweithio yn yr heddlu. Mae'n bwysig cael pobl o fewn y sefydliad sy'n edrych yn debyg i mi ac sydd â chefndiroedd, credoau a phrofiadau tebyg. Mae hefyd yn bwysig ein bod yn parhau i gynyddu'r gynrychiolaeth ym mhob rheng a rôl er mwyn cymell ac ysbrydoli pobl eraill i ymuno.

“Mae nifer o bethau da wedi digwydd yn ystod fy 15 mlynedd gyda Heddlu De Cymru, ond un o'r rhai mwyaf oedd gwylio fy mab yn cwblhau ei hyfforddiant i ddod yn swyddog yr heddlu yn 2017. Mae gwybod fy mod i wedi ei ysbrydoli i ddilyn ôl fy nhraed i ymuno â Heddlu De Cymru yn gwneud i mi deimlo'n hynod o falch. Ers hynny, mae fy mab wedi cael ei ddyrchafu i swydd Rhingyll, sy'n golygu bod dwy genhedlaeth o'r teulu Thompson bellach wedi dod yn Rhingylliaid yn HDC.”

 

Mae Daniel, mab Mavis, wedi bod yn gweithio yn yr heddlu ers 2017, yn dilyn ôl traed ei fam i ddod yn Rhingyll yn 2022.

“Roeddwn i wedi bod yn ystyried p'un a ddylwn ymuno â Heddlu De Cymru ai peidio am nifer o flynyddoedd. Rwy'n uniaethu fel unigolyn BAME (Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol) ac i fod yn gwbl onest, doeddwn i ddim yn teimlo bod yr heddlu ar fy ochr pan oeddwn i'n ifanc. Roeddwn i bob amser yn teimlo nad oedd yr heddlu yno i fy helpu a'u bod yn chwilio am ffordd o fy nghythruddo.  Er hynny, llwyddodd mam i wireddu ei breuddwyd ers yn blentyn i ymuno â'r heddlu yn 2010 ac o'r eiliad honno gwnaeth fy annog i ymuno â'r heddlu a dilyn yn ôl ei thraed. Roedd mam yn credu bod yn rhaid i mi wneud rhywbeth os oeddwn i am weld newid yn y sefydliad.

“Oherwydd fy mhrofiadau blaenorol, roeddwn i bob amser yn petruso am wneud cais. Dim ond ar ôl i aelod o'r Tîm Gweithlu Cynrychioliadol (Tîm Gweithredu Cadarnhaol bellach) gysylltu â mi wnes i ailystyried. Esboniodd y camau roedd HDC yn eu cymryd yn weithredol i annog amrywiaeth ac i sicrhau bod y gwasanaeth yn adlewyrchu'r cymunedau a gaiff eu gwasanaethu yn fwy. O safbwynt personol, cafodd hyn effaith arnaf, gan i mi wastad deimlo y byddwn i wedi uniaethu'n llawer gwell â swyddog yr heddlu a oedd yn deall fy nghefndir a fy nghymuned.

“Mae fy mam wedi fy nghefnogi a'm herio'n barhaus i fod y fersiwn gorau posibl o fi fy hun a hefyd, y swyddog heddlu gorau posibl. Cefais fy annog i ymgymryd â'r arholiad i ddod yn rhingyll ac i ystyried y broses ddyrchafu er mwyn bod yn enghraifft ar gyfer cydweithwyr BAME eraill yn ogystal ag ystyried yr uchelgais hirdymor i gynyddu lefel y gynrychiolaeth yn y graddau uchaf o fewn y sefydliad. O gofio i mi weld fy mam yn cael ei dyrchafu o fod yn Gwnstabl i fod yn Rhingyll, roeddwn i'n gwybod nad oedd yn broses hawdd. Ond roedd gennyf y gefnogaeth a'r enghraifft cywir i lwyddo, gan ennill dyrchafiad i reng rhingyll ym mis Hydref 2022.

“Rwy'n hynod o falch o fod yn rhan o ail genhedlaeth o deulu plismona du ac yn gobeithio y bydd yn annog eraill i ymuno â'r heddlu hefyd.

“Wrth i mi ddatblygu yn fy swydd, rwy'n gobeithio cefnogi rhagor o ddarpar swyddogion a chydweithwyr o gefndiroedd amrywiol i ymuno â HDC gyda'r un lefel o ddycnwch a gan ddilyn esiampl fy mam. Er bod rôl swyddog yr heddlu yn fwy heriol ac yn cael ei graffu yn fwy nag erioed o'r blaen, mae'n brofiad gwerth chweil ac nid wyf erioed wedi difaru ymuno â'r heddlu.”

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu De Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Amdanom ni
  • Gyrfaoedd
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2024. Cedwir pob hawl.