Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Anton Jones wedi cael ei garcharu am un mlynedd ar ddeg a hanner yn dilyn y digwydd yn siop Betfred yng nghanol tref Merthyr Tudful.
Ym mis Ebrill, aeth Jones, 46 oed, i mewn i'r siop gan orchuddio ei wyneb â balaclafa, gyda chyllell fara wyth modfedd wedi ei chuddio yn llawes ei siaced. Gan ei fod yn gwsmer rheolaidd yno, penderfynodd beidio â siarad yn fwriadol wrth fynnu arian, gan y byddai'r staff ar ddyletswydd wedi adnabod ei lais yn hawdd. Cafodd tua £600 ei ddwyn.
Yn dilyn ymchwiliadau helaeth o ddeunydd CCTV, sefydlwyd y llwybr a gymerodd Jones i gyrraedd a gadael y siop. Ac yn fuan wedyn, daeth yr heddlu o hyd i'r dillad a wisgwyd gan Jones wedi eu cuddio mewn isdyfiant ar lan Afon Taf.
Atafaelwyd y dillad a chafodd yr eitemau eu harchwilio'n fforensig, gan ddangos bod DNA Jones ar y dillad.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Paul Bishop:
"Mae Jones yn droseddwr rheolaidd, gyda phedwar euogfarn am achosion o ladrata drwy fygwth â chyllell yn y gorffennol.
"Roedd hwn yn ymdrech tîm i ddod â throseddwr peryglus, nad oedd yn malio dim a wnaeth, gerbron y llys, ble nad oedd ganddo unrhyw ddewis ond pledio'n euog o ystyried pwysau'r dystiolaeth a oedd yn ei erbyn."