Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn dilyn ymchwiliad gan swyddogion o Tarian, yr Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol ar gyfer De Cymru, anfonwyd dyn 27 mlwydd oed o Dreganna yng Nghaerdydd i'r carchar am bum mlynedd.
Ar 31 Mai eleni, aeth swyddogion o dîm tarfu rhanbarthol Tarian i gyfeiriad yn Nhreganna fel rhan o ymgyrch wedi'i harwain gan gudd-wybodaeth yn gweithio gyda pharterniaid o Heddlu Ffiniau'r DU.
Dri diwrnod ynghynt ataliwyd parsel yn dod i mewn i'r wlad o'r UDA yn cynnwys cilogram o ganabis, gydag enw Shawn Martin arno a'i gyfeiriad cartref.
Pan aeth swyddogion i mewn i'r eiddo, deuthpwyd o hyd i Martin wedi'i amgylchynu gan symiau cyfanwerthol o ganabis. Roedd yn y broses o'i rannu i fagiau bach.
Y disgrifiad gorau y gellir ei roi o'r ystafell - ei ystafell wely - fyddai llinell gynhyrchu canabis, yn cynnwys nifer o barseli gwag ac eitemau a oedd wedi cael eu defnyddio i guddio canabis wrth ei fewnforio.
Ar ôl chwilio'r ystafell daethpwyd o hyd i symiau mawr o Ganabis wedi'u labelu gyda rhywogaethau unigol, 'vapes' Canabis, cyffuriau bwytadwy amrywiol fel siocled gyda Psilocybin ynddo, danteithion gwm THC a thystiolaeth o gyflenwi cyffuriau fel 'rhestrau gwirio', clorian a pharaffernalia. Daethpwyd o hyd i werth £2,825 o arian pariod yn yr ystafell wely.
Hefyd yn ystafell Martin daethpwyd o hyd i dair cyllell, gydag un ohonynt yn gyllell ddanheddog gyda charn du tua wyth modfedd o hyd, roedd un arall yn gyllell siap 'knuckle duster' gyda llafn fawr sy'n plygu. Roedd y drydedd yn gyllell 'sbring' awtomatig.
Tra roedd swyddogion yn parhau i chwilio'r tŷ, cyrhaeddod parsel a oedd wedi'i anfon o UDA, gyda chyfeiriad y diffynnydd arno. Nododd y parsel ei fod gan anfonwr yn UDA a'i fod yn cynnwys 'llyfrau daearyddiaeth'. Agorwyd y parsel a gwelwyd bod ynddo gilo arall o ganabis y tu mewn i nifer o haenau o bapur lapio a bagiau a baciwyd dan wactod.
Roedd cyfanswm y canabis a atafaelwyd, yn cynnwys resin canabis, yn pwyso mwy na 5,600 gram gyda gwerth amcangyfrifedig o £48,720 - £53,300 ar y stryd.
Dangosodd ffôn Martin iddo fod yn delio cyffuriau ers mis Tachwedd 2019 hyd nes iddo gael ei arestio. Bu'n defnyddio Cryptoarian i brynu cyffuriau o dramor a'u mewnforio i'r wlad.
Roedd cymaint o dystiolaeth yn erbyn Martin fel nad oedd ganddo ddewis ond pledio'n euog i'r cyhuddiadau yn ei erbyn.
Ddydd Iau, 26ain Hydref ymddangosodd Martin yn Llys y Goron Casnewydd lle cafodd ei ganfod yn euog o'r canlynol:
Dywedodd y Swyddog Ymchwilio, PC Adam Griffiths:"Mae Shawn Martin wedi bod yn delio Canabis ers mis Tachwedd 2019, ac yn ystod y cyfnod hwn mae ei sail cwsmeriaid a soffistigeiddrwydd ei weithrediad wedi cynyddu'n gyflym iawn. Roedd yn mewnforio symiau cyfanwerth o gyffuriau a reolir o dramor i ardal Caerdydd drwy ddefnyddio dulliau cuddio soffistigedig. Roedd graddau ei droseddu yn golygu er bod parsel wedi'i ddal dridiau cyn ei arestio, cyrhaeddodd cilogram arall o ganabis tra roedd y swyddogion yn ei gyfeiriad yn chwilio.
"Roedd yn gwneud arian mawr o'i fenter yn delio mewn cyffuriau. Cynyddodd ei ymddygiad troseddol y llynedd pan ddechreuodd gynnig cyffuriau Dosbarth A a reolir ar ffurf nwyddau bwytadwy Psilocybin ar werth i'w sail cwsmeriaid. Roedd yn defnyddio rhaglenni wedi'u hamgryptio, cryptoarian a sgyrsiau preifat er mwyn cuddio ei droseddu a cheisio cuddio ei enw. Gwnaeth Martin hyd yn oed ymdrech hy i redeg ei Gynllun Loteri ei hun gyda chyffuriau fel gwobrau a chynnig 'pecynnau' ar gyfer y Nadolig, fel petai'n fusnes cyfreithlon.
"Rwy'n croesawu'r ddedfryd a roddwyd i Martin ac mae hyn yn neges glir i'r rhai sy'n ymwneud â chyffuriau a reolir a byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid mewn heddluoedd eraill a Heddlu Ffiniau'r DU i ganfod a mynd ar ôl y rhai sy'n ceisio mewnforio cyffuriau a reolir i mewn i ardal De Cymru, ac erlyn y rhai sy'n gyfrifol, cyn eu dwyn o flaen y Llysoedd. Yna, byddwn yn dechrau achos Deddf Enillion Troseddau er mwyn sicrhau nad yw'r rhai sy'n gysylltiedig yn elwa o'u troseddoldeb."