Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi cael ei ddedfrydu i bedair blynedd o garchar am ddau gyhuddiad o herwgydio plant.
Ychydig cyn 5.05pm ddydd Llun, 21 Tachwedd 2022, derbyniom adroddiad am ymgais i herwgydio dau blentyn, 10 ac 11 oed, yn ardal Baglan, Port Talbot.
Roedd y ddau blentyn yn y parc pan ddaeth Aaron Madden, 37 oed, atynt a gofyn iddynt ei helpu i fynd ar goll yn y parc, gan gynnig rhoi £20 iddynt i wneud hynny.
Arhosodd gyda'r plant am gryn dipyn o amser, gan siarad â nhw wrth iddynt geisio cerdded i ffwrdd oddi wrtho. Gosododd Madden ei freichiau o amgylch eu hysgwyddau, gan eu tywys i gerdded gydag ef.
Gwelodd y plant ffrind teulu a dweud wrthi am yr hyn oedd wedi digwydd. Aeth y ddau blentyn yn ôl adref yn ddiogel.
Daethpwyd o hyd i Madden yn fuan wedyn a chafodd ei arestio.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Kristian Burt:
"Yn amlwg, roedd yr hyn a ddigwyddodd wedi peri trallod i'r ddau blentyn, ond fel arall nid oeddent wedi cael eu niweidio'n gorfforol. Diolch byth na chafodd y plant eu perswadio i fynd gydag Aaron Madden.
"Fodd bynnag, rwy'n deall pryderon rhieni a gwarchodwyr yn llwyr o ystyried y digwyddiad hwn, a hoffwn roi tawelwch meddwl i'r cyhoedd bod herwgydio plant yn ddigwyddiad eithriadol o brin, diolch byth."