Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
Mae 53 o arfau tanio wedi cael eu hildio i Heddlu De Cymru yn dilyn ymgyrch am fis a oedd yn annog y cyhoedd i gyflwyno eu harfau tanio.
Roedd yr arfau tanio a ildiwyd yn cynnwys dau arf tanio anghyfreithlon, wyth ar hugain o arfau tanio wedi eu trwyddedu'n gyfreithlon, a 23 o ddrylliau BB ac arfau aer. Er nad yw'r rheini'n anghyfreithlon, gallant achosi anafiadau os byddent yn y dwylo anghywir.
Mae ildio'r arfau hyn, ynghyd â'r bwledi a'r ategolion, yn dangos cefnogaeth wych y cyhoedd.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Chris Williams, "Rydym yn ddiolchgar i bawb a ildiodd eu harfau tanio dros y mis diwethaf hwn. Mae llwyddiant yr ymgyrch hon yn newyddion da, ac rydym gam yn agosach at amddiffyn ein cymunedau rhag pob math o droseddau treisgar.
Hoffem roi sicrwydd i chi fod y gyfradd o droseddau sy'n ymwneud â drylliau yn ardal Heddlu De Cymru yn isel iawn, ac mae gan y DU yn gyffredinol, y cyfraddau troseddau isaf yn y byd sy'n ymwneud â drylliau.
Ond, mae pob dryll a gyflwynwyd yn ystod yr ymgyrch hon yn golygu y bydd un dryll yn llai yn mynd i'r dwylo anghywir.
Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i'r asiantaethau partner sydd wedi cefnogi'r ymgyrch hon a sicrhau ei llwyddiant.
Er bod ein hymgyrch wedi dod i ben, gall y cyhoedd barhau i ildio eu harfau tanio yng ngorsafoedd yr heddlu, a byddem yn croesawu pob un."
Os oes gennych unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â throseddau sy'n ymwneud â drylliau, cysylltwch â HDC ar 101 neu â Crimestoppers Cymru yn ddienw ar 0800 555 111.