Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ddydd Gwener, cynhaliwyd gwarant gan swyddogion mewn uned ar Ystâd Ddiwydiannol Trefforest, yn dilyn gweld delweddau thermol a dynnwyd gan ddrôn heddlu a arweiniodd at y warant.
Daethpwyd o hyd i bedwar dyn y tu mewn i'r uned, a geisiodd guddio yn yr atig ond daeth y swyddogion o hyd iddynt a'u dal gyda chymorth un o gwn yr heddlu.
Roedd y warws wedi cael ei droi i mewn i ddwy ystafell fawr a oedd yn cynnwys 956 o blanhigion canabis, ac roedd ystafelloedd eraill wedi cael eu paratoi yn barod ar gyfer dal mwy o blanhigion canabis. Roedd gwerth amcangyfrifedig i'r planhigion o fwy na £1 miliwn.
Mae'r pedwar dyn wedi cael eu cyhuddo a'u cadw yn y ddalfa, a byddant yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Merthyr Tudful heddiw.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Dean Taylor, "Roedd hwn yn atafaeliad enfawr, ac arweiniodd ein cuddwybodaeth dron arbenigol at ddatgelu'r gweithgaredd anghyfreithlon hwn a oedd ar raddfa enfawr.
Drwy amharu ar y llinellau cyflenwi a thynnu'r rheini a oedd yn rhan o hynny allan, gallwn wneud cymunedau De Cymru yn fwy diogel.
Mae i'r math hwn o droseddu â chyffuriau ddioddefwyr a chaiff effaith ddinistriol ar gymunedau a phobl sy'n agored i niwed.
Gallwn ond gwneud hyn gyda'r gefnogaeth a'r wybodaeth a gawn gan y cyhoedd, felly hoffwn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am ddelio â chyffuriau yn eu cymuned i'n ffonio ar 101, byddwm yn cymryd pob darn o wybodaeth o ddifrif, am ei fod yn bwysig.