Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau ddeliwr cyffuriau, a oedd wrthi'n sefydlu labordy cemegol i gynhyrchu symiau diwydiannol o amffetamin wedi cael eu dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd.
Ar 27 Gorffennaf yn Llys y Goron Caerdydd, dedfrydwyd David Tyrell, 53 oed, i 29 mis yn y carchar a David Allsopp, 62 oed, i bedair blynedd yn y carchar am feddu ar Amffetamin dosbarth B gyda'r bwriad o'i gyflenwi.
David Allsopp (chwith) a David Tyrell (dde)
Ar 6 Medi 2022, cafodd Tyrell ac Allsopp eu stopio yn Butetown, Caerdydd a daethpwyd o hyd i flwch offer DeWalt yn eu cerbyd, a oedd yn cynnwys 28KG o Amffetamin dosbarth B. Hefyd, daethpwyd o hyd i amrywiaeth o bapurau â chyfarwyddiadau cam wrth gam ar gyfer paratoi a chynhyrchu Amffetamin ynghyd â derbynebau ar gyfer peiriant cywasgu hydrolig a brynwyd.
Y blwch offer DeWalt, yn cynnwys 28kg o Amffetamin Dosbarth B
Cafodd eiddo yn Swydd Derby yr oedd David Allsopp yn gysylltiedig ag ef hefyd ei chwilio a daethpwyd o hyd i 22KG ychwanegol o amffetamin, ynghyd â symiau llai o getamin ac MDMA Dosbarth A.
Cafodd storfa arall yr oedd Allsopp yn gysylltiedig â hi hefyd ei nodi yn Blackpool, a chafodd gwarant ei gweithredu yn y lleoliad. Roedd y storfa yn cynnwys 100 litr o asid, cafn goginio maint diwydiannol a chyfarpar ar gyfer cynhyrchu symiau diwydiannol o amffetamin.
Cafodd Tyrell ac Allsopp eu cyhuddo a'u cadw yn y ddalfa.
Cafodd cyfanswm o 50KG o amffetamin ei atafaelu gan David Tyrell a David Allsopp, a chafodd eu labordy cemegol ar gyfer cynhyrchu symiau diwydiannol o amffetamin ei thynnu'n ddarnau. Amcangyfrifwyd cyfanswm gwerth stryd rhwng £250,000 a £500,000 ar gyfer y cyffuriau a atafaelwyd.
Y cyffuriau a atafaelwyd fel rhan o'r ymchwiliad
Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Russ Jenkins o Uned Cuddwybodaeth a Throseddau Cyfundrefnol yr Heddlu "Roedd yr ymchwiliad hwn yn un hir ac yn hynod gymhleth, ac o ganlyniad llwyddwyd i erlyn y diffynyddion. Roedd Tyrell o Fanceinion ac Allsopp o Swydd Derby yn credu y gallent ddefnyddio strydoedd De Cymru i ddosbarthu symiau sylweddol o gyffuriau a fyddai wedi cael effaith andwyol ar unigolion a chymunedau lleol ac a fyddai, fwy na thebyg, wedi arwain at droseddau meddiangar ac achosion o drais.
Rydym yn parhau'n ymrwymedig i fynd i'r afael â'r troseddwyr cyfundrefnol mwyaf difrifol ac rydym yn parhau i annog aelodau o'r cyhoedd i gysylltu â ni os bydd ganddynt unrhyw wybodaeth. Efallai mai dyna fydd y darn allweddol o'r jig-so a fydd yn ein helpu i erlyn y troseddwyr difrifol a chyfundrefnol hyn.”