Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd tri dyn eu harestio'r wythnos diwethaf fel rhan o ymchwiliad parhaus i achos o gamfanteisio’n rhywiol ar blant.
Gweithredwyd gwarantau mewn pedwar cyfeiriad yn ardaloedd Porthcawl a'r Pîl o dan arweiniad tîm camfanteisio Heddlu De Cymru a gyda chefnogaeth timau yn y gymdogaeth, troseddau cyfundrefnol a chymorth tiriogaethol.
Cafodd dynion 24, 35 a 32 oed eu harestio ar amheuaeth o fasnachu pobl a chyflawni troseddau rhywiol a throseddau yn ymwneud â chyffuriau, ac atafaelwyd swm mawr o arian parod a phowdr. Mae profion fforensig yn cael eu cynnal ar y sylwedd.Cafodd nifer o ffonau symudol eu hatafaelu hefyd ac maen nhw'n cael eu harchwilio gan ein Huned Fforenseg Ddigidol a Seiberdroseddu ar hyn o bryd.
Mae'r tri wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth amodol tra gwneir ymholiadau pellach.
Rydym yn ymrwymedig i fynd i'r afael ag achosion o gamfanteisio'n rhywiol ar blant, gan ddwyn y rhai sy'n gyfrifol o flaen eu gwell a diogelu dioddefwyr.