Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Defnyddiodd swyddogion y chwistrell sy'n achub bywyd, naloxone trwynol, i achub un o drigolion Merthyr fis diwethaf.
Mae naloxone trwynol yn wrthgyffur brys ar gyfer achosion o orddos a achosir gan heroin a sylweddau opiadau neu opioidau eraill. Mae'n gweithio drwy wrthdroi'r anawsterau anadlu a all ddigwydd yn sgil gorddos o'r sylweddau hyn, er mwyn rhoi mwy o amser i ambiwlans gyrraedd.
Cafodd swyddogion patrôl eu fflagio yng nghanol tref Merthyr ar ôl rhoi gwybod bod rhywun wedi disgyn a tharo ei ben a dioddef trawiad yn ôl y golwg.
Roedd yr unigolyn yn mynd o fod yn ymwybodol i fod yn anymwybodol ym mhresenoldeb yr heddlu ond aeth yr unigolyn yn anymatebol wrth i Gwnstabl yr Heddlu Ross Dixon ddiweddaru'r ambiwlans ar y sefyllfa.Oherwydd y posibilrwydd o ddefnyddio opiadau yn ddiweddar, rhoddodd PC Jack Hughes un dos o naloxone trwynol yn ffroen yr unigolyn a chafodd effaith gadarnhaol, a dechreuodd ddeffro.
Fodd bynnag, wrth aros am gymorth ambiwlans, dirywiodd yr unigolyn gan arwain at PC Wayne Mitchell yn defnyddio diffibriliwr y daethpwyd ag ef i'r lleoliad yn ffodus gan aelod o'r cyhoedd ac yn y diwedd bu'n llwyddiannus wrth ddadebru'r unigolyn a anafwyd. Cyrhaeddodd yr ambiwlans ychydig funudau'n ddiweddarach i ddarparu gofal uwch pellach i'r unigolyn.
Dywedodd yr Arolygydd Craig Bannister:
“Ni allaf ganmol pawb ddigon am ymateb yn gyflym ac am fod yn broffesiynol wrth ddelio â'r digwyddiad hwn ac rwy'n sicr bod eu hymyriadau wedi achub bywyd yr unigolyn oedd yn agored i niwed.
“Drwy gario'r gwrthgyffur hwn, mae gan swyddogion fynediad at adnodd hanfodol i leihau niwed a all atal marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau a'r effeithiau dilynol ar deuluoedd a chymunedau.
“Mae'r unigolyn hwn a gafodd y dos hwn o Naloxone bellach wedi cael ei hatgyfeirio at wasanaethau lleihau niwed am driniaeth a gwasanaethau ymyrryd pellach, gan roi cyfle iddi ailadeiladu ei bywyd.”