Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Heddiw, mae'r Ysgrifennydd Cartref wedi cyhoeddi bod y 43 o heddluoedd yng Nghymru a Lloegr wedi ymrwymo i Ymgyrch Soteria, y rhaglen drawsnewid sy'n mynd i'r afael â threisio a throseddau rhywiol difrifol.
Ar ôl bod yn heddlu peilot dros y ddwy flynedd ddiwethaf, bydd Heddlu De Cymru yn rhoi’r Model Gweithredu Cenedlaethol ar waith, a ddatblygwyd drwy’r rhaglen, gan sicrhau bod ymchwiliadau’n canolbwyntio ar y dioddefwr, a'r unigolyn dan amheuaeth ac yn cael eu harwain gan gyd-destun.
Rhaglen Gydweithredol yw Ymgyrch Soteria, a ddaeth â 19 o heddluoedd ac academyddion ynghyd i ddeall a mynd i'r afael â'r heriau a welwyd mewn ymchwiliadau i dreisio a throseddau rhywiol difrifol. Gyda'i gilydd, mae swyddogion ac academyddion wedi datblygu Model Gweithredu Cenedlaethol a fydd yn cael ei roi ar waith gan bob heddlu yng Nghymru a Lloegr.
Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl, Rachel Bacon:
"Drwy weithredu'r Model Gweithredu Cenedlaethol, byddwn yn deall anghenion dioddefwyr ac yn gallu eu cefnogi. Dylai'r ffocws fod ar y sawl sy'n cyflawni'r troseddau, yr unigolion dan amheuaeth, er mwyn inni gael y cyfiawnder y mae dioddefwyr ei eisiau ac yn ei haeddu.
“Mae Ymgyrch Soteria eisoes yn cael effaith gadarnhaol yn Ne Cymru drwy’r newidiadau niferus yr ydym wedi’u cyflwyno dros y ddwy flynedd ddiwethaf a thrwy ymrwymo iddi rydym yn ymrwymo i wneud gwaith gwell ar ran dioddefwyr. Mae’n hanfodol bod swyddogion yn cael y gofal a'r hyfforddiant sydd ei angen arnynt i ddelio â’r achosion erchyll hyn.”
Lansiwyd Ymgyrch Soteria fel rhan o Adolygiad o Dreisio o’r dechrau i’r diwedd y llywodraeth (cyhoeddwyd ym mis Mehefin 2021). Adeiladodd y rhaglen ar Brosiect Bluestone, gwaith arloesol yn Avon a Gwlad yr Haf a ddechreuodd yn 2020. Yn 2021, ymunodd pedwar heddlu arall â'r rhaglen, sef yr Heddlu Metropolitanaidd, Heddlu De Cymru, Cwnstabliaeth Durham a Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr. Ym mis Hydref 2022, ymunodd 14 o heddluoedd eraill â'r rhaglen.
Ers Ymgyrch Soteria:
Mae nifer y cyhuddiadau yn Avon a Gwlad yr Haf wedi mwy na threblu, gan godi o saith cyhuddiad i 22 rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2022.
Mae’r Met wedi gweld gostyngiad o 18% yn nifer yr achosion sy’n dod i ben oherwydd i ddioddefwyr dynnu’n ôl, gan ostwng o 743 o achosion cyn Soteria i 611 o achosion rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2022.
Mae cyfradd cyhuddiadau yn Durham wedi cynyddu 10 pwynt canran, gan godi o 2.6% i 12.6% ers Ymgyrch Soteria.
Mae nifer yr achosion sy'n cael eu hatgyfeirio at Wasanaeth Erlyn y Goron gan Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr wedi dyblu, gan godi 108% o 26 i 54 o achosion.
Mae nifer yr achosion a gyhuddwyd yn Ne Cymru wedi cynyddu 110%, gan godi o 10 achos cyn Ymgyrch Soteria i 21 o achosion rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2022.
Mwy: Ailwampio'r system cyfiawnder troseddol yn sicrhau gwelliant sylweddol i ddioddefwyr treisio