Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn cynnal adolygiad fforensig o lofruddiaethau Harry a Megan Tooze 30 mlynedd yn ôl.
Daethpwyd o hyd i'r cwpwl yn farw ag anafiadau saethu yn eu cartref ar fferm Ty Ar y Waun yn Llanhari ar 26 Gorffennaf 1993.
Mae Heddlu De Cymru bellach wedi dechrau adolygiad fforensig o'r achos ac yn gweithio ochr yn ochr â'r gwyddonydd fforensig Dr Angela Gallop.
Caiff y technegau fforensig diweddaraf eu defnyddio i helpu'r ditectifs sy'n ceisio canfod gwybodaeth newydd a all helpu i ddatrys llofruddiaethau Harry, 64 oed, a Megan 67 oed.
Dywedodd yr Uwch-swyddog Ymchwilio, y Ditectif Uwch-arolygydd Mark Lewis:
“Mae'r wythnos hon yn nodi 30 mlynedd ers llofruddiaethau Harry a Megan sy'n parhau i fod heb eu datrys. Drwy ddefnyddio'r technegau fforensig modern diweddaraf, rydym yn gobeithio y gallwn sicrhau cyfiawnder i Harry a Megan.
“Bydd yr adolygiad fforensig yn canolbwyntio ar arddangosion o'r achos er mwyn penderfynu a oes potensial am ragor o brofion fforensig. Fel sy'n arferol mewn adolygiadau o'r fath, ni ellir byth gwarantu unrhyw ganlyniadau. Mae teulu Harry a Megan wedi cael gwybod am ein gwaith a byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt.”
Ar fore dydd Llun 26 Gorffennaf, gadawodd Harry a Megan y fferm i gasglu eu pensiynau yn Llanhari, a chawsant eu gweld yn cyrraedd yn ôl am 11am.
Tua 1.30pm, cafodd dau ergyd gwn eu clywed gan gymdogion ond nid ystyriwyd bod hyn yn anarferol ar y fferm.
Cafodd yr heddlu eu galw pan na chafodd galwad reolaidd gan ferch y cwpwl ei hateb. Aeth swyddogion i'r fferm a daethant o hyd i gyrff Harry a Megan yn y sied gwartheg.
Ychwanegodd y Ditectif Uwch-arolygydd Lewis: “Mae'r achos hwn wedi effeithio ar lawer o bobl ar hyd y blynyddoedd, a'n nod yw dod o hyd i'r atebion sy'n dal i fod heb eu hateb am farwolaethau cwpwl 30 mlynedd yn ddiweddarach. Hyd yn oed ar ôl yr holl amser, rwy'n apelio ar unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y llofruddiaethau i gysylltu â'r heddlu.”
Ei gyflwyno ar-lein drwy borth gyhoeddus: https://mipp.police.uk/operation/62SWP19A24-PO1
Fel arall, gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â ni drwy un o'r ffyrdd canlynol gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2300016841
💬 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
📞 101
Mae Heddlu De Cymru wedi cael cryn lwyddiant gydag achosion heb eu datrys, ac rydym yn un o'r heddluoedd cyntaf yn y wlad i sefydlu tîm adolygu yn 1999 i gynnal adolygiadau o achosion heb eu datrys.
Ers nifer o flynyddoedd, mae'r heddlu wedi cynnal y Gynhadledd Swyddogion Adolygu Genedlaethol flynyddol ac wedi chwarae rôl allweddol wrth gynhyrchu a darparu hyfforddiant cenedlaethol i swyddogion adolygu a llunio'r canllawiau adolygu cenedlaethol ar gyfer cydweithwyr mewn heddluoedd ledled y DU ac Ewrop.
ENDS