Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cynhaliwyd cyfres o warantau gan swyddogion yn Nhrelái, Treganna, y Tyllgoed, Tredelerch a Gabalfa, fel rhan o ymchwiliad sy'n ymwneud â chyflenwi crac cocên a heroin.
Cafodd pedwar car eu hatafaelu hefyd, gan gynnwys Mercedes A180 a BMW X2, o dan y Ddeddf Enillion Troseddau, ac arfau, gan gynnwys gwn Taser.
Roedd y cyfeiriadau a gafodd eu chwilio ddydd Gwener, 14 Gorffennaf yn cynnwys rhai ar Heol Poyston a Cwrt yr Ala Road yn Nhrelái, dau eiddo ar Cowbridge Road West, a fflatiau yn Ash Place yn y Tyllgoed, Hazelwood Drive yn Nhredelerch a Lydstep Flats, Gabalfa.
Dywedodd yr Arolygydd Ben Davies, o Heddlu De Cymru:
“Mae cyflenwi cyffuriau Dosbarth A yn peri diflastod ac yn torri calonnau cymunedau ledled Caerdydd.
“Mae delwyr cyffuriau yn manteisio ar fregusrwydd defnyddwyr cyffuriau er mwyn elwa'n ariannol.
“Nid ydynt yn rhoi unrhyw ystyriaeth i'r canlyniadau, ac ni fyddwn yn sefyll yn segur tra bydd ein cymunedau yn parhau i ddioddef.
“Mae'r Timau Plismona yn y Gymdogaeth yn gweithio ochr yn ochr â thimau arbenigol yr heddlu i sicrhau y gall pobl fyw eu bywydau heb ofn na chael eu cythruddo.
“Ni chaiff delio mewn cyffuriau ei oddef, a byddwn yn parhau gyda'n hymdrechion yn ddiflino.”
Mae Daniel Lewis, 37 oed o ardal Caerau, a Lewis Hicks, 31 oed, o'r Tyllgoed, wedi cael eu cyhuddo o gynllwynio i gyflenwi crac cocên a heroin, a gwnaethant ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Sadwrn, 15 Gorffennaf. Mae'r saith arall a gafodd eu harestio ar fechnïaeth yr heddlu.
Un enghraifft yn unig yw'r ymchwiliad hwn o'r ffyrdd rydym yn mynd i'r afael ag achosion o werthu cyffuriau yn y gymuned.
Gallwn weithredu ar y wybodaeth a gawn gan y cyhoedd, ac rydym yn gwneud hynny'n rheolaidd, felly parhewch i gysylltu â ni.
Anogir unrhyw un sydd ag amheuon neu wybodaeth am achosion o gyflenwi cyffuriau anghyfreithlon i gysylltu â ni.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.