Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Plediodd y dyn 38 oed yn euog i ymosodiad rhywiol, ymosodiad gan achosi gwir niwed corfforol a chyflawni trosedd gyda'r bwriad o gyflawni trosedd rywiol berthnasol.
Digwyddodd hyn tua 6.40am ddydd Sul, 31 Awst, y llynedd ar Lwybr y Taf ger Pont Blackweir.
Roedd menyw 32 oed yn cerdded drwy'r parc pan afaelodd Edey ynddi, ac ymosod yn rhywiol arni.
Cafodd ei arestio dair wythnos yn ddiweddarach ar ôl cael ei adnabod drwy dystiolaeth DNA a ddarganfuwyd ar ei throwsus rhedeg.
Gwadodd Edey y troseddau i ddechrau ond plediodd yn euog ar ddiwrnod cyntaf yr achos ym mis Mehefin.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Simon Hicks: “Roedd hwn yn ymosodiad erchyll ar fenyw ar phen ei hun, yng ngolau dydd.
“Hoffwn ganmol dewrder a chryfder y dioddefwr wrth gysylltu â'r Heddlu, ac adrodd am yr hyn a ddigwyddodd, gan siarad mor ddewr am yr effaith ofnadwy y mae gweithredoedd Edey wedi’i chael arni.
“Rydym yn gobeithio y bydd y ddedfryd yn dod â rhywfaint o ddiweddglo iddi ac yn caniatáu iddi adennill ei hyder a symud ymlaen â’i bywyd.”
Cafodd Edey ei ddedfrydu yn Llys y Goron Casnewydd ddydd Mawrth, 11 Gorffennaf, i bedair blynedd ac 11 mis yn y carchar, a thair blynedd ychwanegol ar drwydded.
Ychwanegodd DC Hicks: O’r funud yr adroddwyd am hyn, roeddem yn gwbl ymroddedig i ganfod pwy oedd yn gyfrifol a'i ddwyn o flaen ei well.
“Roedd yr ymchwiliad yn cynnwys oriau di-ri o waith gan dîm o dditectifs a staff heddlu, ac oherwydd cryfder y dystiolaeth hyn plediodd Edey yn euog.”
Mae Heddlu De Cymru yn cymryd pob adroddiad am ymosodiad rhywiol o ddifrif ac yn annog dioddefwyr i gysylltu i adrodd amdano, ni waeth pryd y digwyddodd, gan wybod y byddant yn cael eu trin â pharch ac urddas ac yr ymchwilir yn llawn i’w honiad.
I gael rhagor o gyngor ar dreisio, ymosodiad rhywiol a throseddau rhywiol eraill ewch i:https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/riportiwch/alpha-v1/cyngor/treisio-ymosod-rhywiol-a-throseddau-rhywiol-eraill/