Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru wedi lansio eu cwch newydd, RIB Draig yr Heddlu, yn swyddogol ddydd Gwener, 7 Gorffennaf.
Caiff y cwch ei ddefnyddio at amrywiaeth o ddibenion o chwiliadau dŵr, troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a gyflawnwyd ar y môr a dyfrffyrdd eraill, gan gynorthwyo asiantaethau partner gan gynnwys Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub, Gwylwyr y Glannau, y gwasanaeth tân a’r Llynges Frenhinol. Bydd hefyd yn cynorthwyo ein gwaith gyda'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol i orfodi'r gyfraith mewn achosion o dorri cyfreithiau morol. Yn ogystal, caiff y cwch ei ddefnyddio yn ystod digwyddiadau proffil uchel, i roi cymorth ar y cyd ac i roi tawelwch meddwl ar hyd ein harfordir helaeth.
Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru, Mark Travis:
"Rydym yn ymrwymedig i weithio gyda'n hasiantaethau partner i fynd i'r afael â materion sy'n cael effaith andwyol ar ein cymunedau. Rydym yn gwasanaethu ardal arfordirol fawr yma yn Ne Cymru, felly bydd ychwanegu RIB Draig yr Heddlu yn ein galluogi i gadw’r cyhoedd yn ddiogel ar y tir ac ar y môr.
"Mae gan yr Heddlu rôl i'w chwarae – gan weithio ochr yn ochr ag amrywiaeth o sefydliadau partner – i helpu i sicrhau bod pobl ar y môr neu sy’n mwynhau ein harfordiroedd yn ddiogel. Rydym hefyd yn benderfynol o atal a mynd i'r afael ag amrywiaeth o ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddoldeb sy'n digwydd yn ein hardaloedd arfordirol. Rydym yn delio ag amrywiaeth o ddigwyddiadau o drais yn y cartref, lladrata cychod, a mewnforio cyffuriau i ddiogelu cychod eraill sy’n dod i mewn i ddyfroedd ein harfordir.”
Aeth Cadetiaid Môr Penarth i'r digwyddiad brynhawn dydd Gwener ym Mae Caerdydd, lle treuliodd swyddogion amser yn egluro sut y bydd y cwch yn cael ei ddefnyddio i gadw De Cymru’n ddiogel, rhoi cyngor diogelwch dŵr a sôn am rai o’r materion y byddwn yn canolbwyntio arnynt yn Ymgyrch Tusker, sef ymgyrch yr haf y Gwasanaethau Cymorth Gweithredol.
Dywedodd yr Is-gapten (SCC) Helen Davies, un o Swyddogion Cyfrifol y Llynges Frenhinol Wrth gefn, o Gadetiaid Môr Penarth:
“Roedd yn bleser gennym fynd i'r lansiad swyddogol. Roedd yn gyfle gwych i’r cadetiaid ddysgu mwy am sut bydd cwch yr heddlu yn cael ei ddefnyddio yn y gymuned, gofyn cwestiynau a chael taith o amgylch RIB Draig yr Heddlu.”
“Roedd y cadetiaid wrth eu boddau ar yr ymweliad ac wedi mwynhau pob munud o’r profiad. Hyd yn oed yr aelod o staff a aeth ar y cwch; rwy'n meddwl ei fod yn fwy cyffrous na'r cadetiaid ac yn siomedig na allai yrru'r cwch ei hun!
“Llwyddais hefyd i sgwrsio gyda rhieni un o’r cadetiaid o Gaerdydd ar ôl yr ymweliad a oedd yn llawn clod am yr ymweliad a dywedodd fod yr holl brofiad wedi bod yn anhygoel i'w blentyn.”
Nod Ymgyrch Tusker yw darparu dull cydweithredol a fydd yn canolbwyntio ar ddiogelwch dŵr, mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn ogystal ag atal ac amharu ar droseddoldeb ar draws Môr Hafren ac ar hyd ein harfordir. Bydd swyddogion yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr o'r Awdurdod Harbyrau, Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub a Gwylwyr y Glannau i fynd i'r afael â'r materion hyn.
Bydd Ymgyrch Tusker, yr ymgyrch aml-asiantaeth sydd â'r nod o gadw ardaloedd arfordirol yn ddiogel, yn rhedeg rhwng mis Gorffennaf a mis Medi.