Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd Tîm Camfanteisio penodol Heddlu De Cymru yn gweithio i wella ymwybyddiaeth o Gamfanteisio'n Rhywiol ac yn Droseddol ar Blant yn y sector lletygarwch, ar ôl i bob gwesty yr ymwelwyd ag ef mewn ymgyrch ‘gwirio a phrofi’ ddiweddar fethu ag adnabod arwyddion amlwg allweddol.
Cynhaliodd y tîm yr ymgyrch ‘pryniant prawf’ mewn chwe lleoliad yr wythnos diwethaf, gan ddefnyddio un o swyddogion gwrywaidd yr heddlu mewn dillad plaen a dau o Wirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu.
Fel rhan o'r ymgyrch, aeth y tri i dderbynfeydd gwestai a cheisio archebu ystafelloedd munud olaf. Ym mhob achos, gofynnodd y dyn am ystafell ar ei gyfer ef a'r ddwy ferch ifanc, gan nodi'n glir mai dim ond am ychydig oriau y byddai angen yr ystafell. Roedd ef am dalu gan ddefnyddio arian parod hefyd.
Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau ac ni chodwyd unrhyw bryderon diogelu yn ystod unrhyw un o'r ymweliadau.
Yn dilyn y prawf, siaradodd swyddogion mewn dillad plaen â rheolwyr a staff y gwestai gan roi gwybod iddynt am yr ymgyrch a'r rheswm dros ei chynnal. Holodd y swyddogion pa hyfforddiant roedd y staff wedi ei gael i wella eu dealltwriaeth o gamfanteisio, a sut y gellid gwella hyn.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Lucy Roberts, a arweiniodd yr ymgyrch yr wythnos diwethaf:
“Ein blaenoriaeth bob amser yw diogelu plant a'r rheini sy'n wynebu risg o gamfanteisio ac mae'r ffaith na chodwyd unrhyw bryderon y noson honno yn dangos y diffyg ymwybyddiaeth o'r ffaith y gall y fath droseddau ddigwydd yn ein cymunedau.
“Rydym ni fel heddlu yn ymwybodol bod rhai gwestai yn Ne Cymru wedi cael eu defnyddio i gamfanteisio'n rhywiol ar bobl ifanc agored i niwed. Sefydlwyd yr ymgyrch hon er mwyn asesu effeithiolrwydd gwestai wrth nodi a diogelu dioddefwyr posibl achosion o gamfanteisio'n rhywiol ar blant gyda phryniant prawf.
“Nid ceisio dal aelodau unigol o staff oedd bwriad yr ymweliadau – y bwriad oedd addysgu a nodi bylchau amlwg mewn hyfforddiant, fel y gallwn ni weithio i fynd i'r afael â hyn ar y cyd â'r lleoliadau a'n partneriaid trwyddedu.
“Rydym yn gwerthfawrogi'n llwyr nad yw'n hawdd adnabod yr arwyddion bob amser – er enghraifft, mae gan dadau bob hawl i aros mewn gwesty gyda'u plant – ond yr hyn rydym yn ei ofyn yn syml yw i bobl edrych yn fanylach, gofyn cwestiynau, a rhoi gwybod os nad yw pethau'n ymddangos yn iawn.
“Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth fynd i'r afael â chamfanteisio – rydym yn ymrwymedig i ddwyn troseddwyr o flaen eu gwell ac i ddiogelu'r rheini sy'n wynebu risg a'r rheini sydd wedi dioddef dan ddwylo troseddwyr mor ddidrugaredd – gofyn rydym ni i'n cymunedau gydweithio gyda ni i wneud hyn. ”
Bydd pryniannau prawf a hyfforddiant pellach yn parhau yn ardal yr heddlu dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.
Dysgwch mwy am gamfanteisio, sut i adnabod yr arwyddion a sut i roi gwybod.