Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae teulu dioddefwr byrgleriaeth ym Mhenarth yn apelio i ddychwelyd modrwy briodas sydd â gwerth sentimental enfawr.
Roedd y fodrwy briodas aur, fel yr un yn y llun, yn eiddo i berthynas a fu farw ac mae'r teulu wedi torri eu calonnau ei bod wedi'i dwyn.
Cafodd y fodrwy, ynghyd â gemwaith eraill, oriorau Rolex a sêff fawr, eu cymryd o dŷ yn Dros y Môr ger Marine Parade.
Roedd y preswylydd oedrannus, ar wyliau estynedig ar y pryd, ond mae wedi dod i'r amlwg bod y fyrgleriaeth wedi digwydd rywbryd rhwng 18 a 25 Mai. Aethant i mewn drwy dorri ffenestr gefn.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Gareth Martin: “Mae’r teulu yn drist iawn o ganlyniad i'r digwyddiad hwn.
“Maent yn apelio ar y sawl a oedd yn gyfrifol i ddangos rhywfaint o dosturi a rhywsut ddychwelyd y fodrwy sydd ag arysgrif y tu mewn iddi, fel yr un yn y llun.
“Hoffent i bwy bynnag sydd â’r fodrwy ei dychwelyd i orsaf yr heddlu neu ei dychwelyd mewn unrhyw ffordd arall y gallant.
“Mae bwrgleriaeth nid yn unig yn golygu colli eiddo personol, ond mae hefyd yn achosi trallod emosiynol sylweddol.
“Mae Heddlu De Cymru wedi ymrwymo i ymchwilio i droseddau difrifol a chymhleth fel bwrgleriaeth.”
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y fwrgleriaeth hon neu leoliad y gemwaith sydd wedi’i ddwyn i gysylltu â Heddlu De Cymru drwy un o’r dulliau canlynol gan ddyfynnu’r rhif digwyddiad 2300169926.
🗪 Sgwrs Fyw (24/7) https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
💻 Cysylltwch â ni drwy https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/ffurflenni-cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
📧 E-bost [email protected]
📞 101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.