Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Steffan Jones, o Ben-y-bont ar Ogwr wedi cael ei garcharu am 15 mlynedd am dreisio ac ymosod ar ddau ddioddefwr yn rhywiol.
Ymosododd Jones, 25, yn rhywiol ar ferch ym mis Mai 2021 pan roedd hi wedi meddwi a recordiodd y cyfan ar ei ffon i ddangos i'w gydletywr.
Ymosododd ar un o'i ddioddefwyr yn rhywiol pan roedd hi'n noeth, yn feddw, ac yn taflu i fyny mewn basn ymolchi ar ôl iddo ei thwyllo i gytuno i chwarae gem yfed. Recordiodd yr ymosodiad ar ei ffon i'w wylio'r cyfan yn ôl a'i ddangos i'w gydletywr.
Cafodd yr arestiad a'r cyhuddiad eu gwneud yn dilyn ymchwiliad ar y cyd a Heddlu Dyfed Powys.
Cafodd Jones ei ganfod yn euog yn y llys am un cyhuddiad o dreisio a dau gyhuddiad o ymosod drwy dreiddiad.
Cafodd Jones ei ddisgrifio gan y barnwr, David Wynn Morgan, fel "rheibiwr rhywiol, celwyddgi, ac unigolyn narsisaidd".
Dywedodd y Ditectif Ringyll Andrew Coakley, "Mae Jones yn dreisiwr ffiaidd sydd bellach ble mae'n haeddu bod. Hoffwn dalu teyrnged i'r dioddefwyr am gael dewrder aruthrol i gyflwyno eu cwynion a sicrhau bod yr ymosodwr yn cael ei gyhuddo."