Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae teulu Ceirion Galliers, 18 oed o Abercanaid, Merthyr Tudful, a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ffordd ar yr A4060 ddydd Sadwrn, 22 Gorffennaf wedi talu’r deyrnged ganlynol iddo:
“Mae teulu Ceirion Galliers yn gefnogwyr rygbi brwd. Mae'n bwysig nodi hyn oherwydd flynyddoedd yn ôl, yn Awstralia, roedd chwaraewr rhagorol o'r enw John Eales. 'Nobody' oedd llysenw John - ac arferai pobl ddweud 'Nobody's Perfect'. Roedd mor dda â hynny.
“Dylai Cei, fel yr oedd pawb a oedd yn ei adnabod yn ei alw, fod wedi cael ei alw yn Nobody. Nid am ei allu i chwarae rygbi, ond am bron bopeth arall a wnaeth yn ei fywyd y tu allan i faes rygbi. Treuliodd Cei y mwyafrif helaeth o’i 18 mlynedd gyda ni, yn helpu ac yn gofalu am eraill. Pwy oedd y dyn ifanc, rhyfeddol hwn?
“Fel y gallwch ddychmygu, mae ei deulu wedi’u llorio o’i golli i ddamwain ffordd mor ofnadwy, dim ond 11 diwrnod ar ôl ei ben-blwydd yn 18 oed. Mae ei fam a'i dad, ei frawd a'i chwaer, ei gariad, ei fam-gu a'i dad-cu, cefndryd, modrybedd ac ewythrod a'r llu o deulu estynedig a ffrindiau yr oedd yn eu hadnabod ac a oedd yn ei garu mewn galar. Gellid dweud bod y dref gyfan mewn galar.
"Cei oedd prif academydd y teulu Galliers. Ar ôl dod yn Brif Fachgen yn Ysgol Uwchradd Afon Taf, aeth ymlaen i Goleg Iwerydd UWC, ac roedd wedi gwblhau ei ddwy flynedd yno yn ddiweddar, cyn sicrhau gyrfa lawn amser gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron dim ond 6 wythnos yn ôl. Mae ei gyd-ddisgyblion yn yr ysgol a'r coleg a phob un o'r athrawon a ddaeth ar ei draws, i gyd yn cytuno ar un peth. Roedd yn ddisgybl cyflawn.
“Trochodd ei hun ym mhob agwedd ar fywyd ysgol a choleg, ac roedd yn esiampl dda i eraill. Ef oedd y dyn ifanc mwyaf cwrtais, parchus, caredig a gweithgar." Dyna oedd geiriau ei ysgol yn y deyrnged iddo. Maent mor wir.
“Yn ystod 10 mlynedd olaf ei fywyd, bu Cei yn chwarae'n rheolaidd i Glwb Rygbi Merthyr. Gan ddechrau chwarae gyda’r tîm dan 8, aeth drwy’r grwpiau oedran adran fach ac iau, a'r tymor diwethaf, ymunodd â’r tîm ieuenctid, yn ei hoff safle, mewnwr. Mae'n anodd amgyffred nifer y bobl a ddaeth ar draws Cei yn y cyfnod hwnnw - a dim ond pethau da yr oedd gan bob un ohonynt i'w dweud amdano. Ni allwch ddod o hyd i unrhyw un sydd â rhywbeth negyddol i'w ddweud am Cei.
“Roedd hyn yn amlwg yn yr achlysur i gofio am Cei yng Nghlwb Rygbi Merthyr pan roddodd tua 200 o bobl funud o gymeradwyaeth er anrhydedd iddo, yn y glaw trwm! Mae'r clwb hyd yn oed wedi atal crys rhif 9 Cei ar gyfer y tymor sydd i ddod, sy'n rhywbeth nad ydym yn credu sydd wedi digwydd o'r blaen.
“Ond roedd Cei yn fwy na chwaraewr. Roedd o hyd am wneud mwy i eraill, felly pasiodd y cwrs dyfarnu a dechreuodd ddyfarnu gemau bach ac iau yn lleol hefyd. Nid dim ond yng Nghlwb Rygbi Merthyr ond mewn unrhyw glwb a oedd angen dyfarnwr - neu ddyfarnwr cynorthwyol - hyd yn oed ar fyr rybudd. Bu'n hyfforddi gyda phobl ifanc ac roedd yn rhan annatod o sefydliad lleol, IC Sports, sy'n darparu amgylcheddau chwaraeon hwyliog i blant ifanc. Yn eu geiriau, “Roedd Cei yn ddyn ifanc gwirioneddol ysbrydoledig. Caredig, gofalgar, brwdfrydig, a byddai'n gwneud unrhyw beth i unrhyw un. Bob amser yn rhoi pawb arall yn gyntaf. Os oedden nhw'n hapus, roedd e'n hapus."
“Fe allwn fynd ymlaen ac ymlaen ond yr un fyddai'r neges.
“Mae ein teulu, ein tref, ein teulu rygbi a’r teulu rygbi ehangach wedi colli angel. Rydym yn hyderus bod Cei yn cael ei gofleidio gan ei fam-gu annwyl Pat, a fu farw dair blynedd yn ôl. Roedden nhw bob amser gyda'i gilydd, a byddan nhw'n edrych i lawr ar bob un ohonom ni ac yn ein helpu ni i geisio gwneud synnwyr o’r sefyllfa ddisynnwyr hon.
“Gofynnwn i holl deulu Cei, a'i ffrindiau yn arbennig, ofalu am ei gilydd dros y dyddiau, misoedd a blynyddoedd i ddod ac i fod yn gryf gan wneud y gorau o weddill eu bywydau. Dyna fyddai Cei am iddo ddigwydd gan ei fod bob amser eisiau'r gorau iddyn nhw.
“Mewn marwolaeth, fel mewn bywyd, nid yw Cei yn wahanol. Cyflawnodd ei ddymuniad o ddod yn rhoddwr organau yn dilyn ei farwolaeth annisgwyl. Mae’r teulu eisoes wedi clywed gan dîm rhoddwyr Ysbyty Athrofaol Cymru y bydd calon Cei yn parhau i guro wrth iddo helpu claf anhysbys, i fyw bywyd iach gobeithio. Mae hynny'n rhoi balchder a chysur i'r teulu ac maent yn gwybod y bydd yn parhau i helpu cleifion sâl eraill wrth iddynt hwythau hefyd gael rhodd arbennig gan berson arbennig iawn.
“Hoffai’r teulu ddiolch i bawb sydd wedi anfon negeseuon o gydymdeimlad, negeseuon testun, galwadau ffôn ac sydd wedi ymweld i dalu teyrnged a chefnogi’r teulu ar yr adeg wirioneddol ofnadwy hon.
“Yn olaf, diolch yn fawr iawn i’r holl staff meddygol a fu’n gofalu am Cei o adeg y ddamwain hyd at pan fu farw. Mae gormod o lawer i ddiolch iddynt yn unigol, ond mae’r parafeddygon a’r meddyg a oedd yn lleoliad y ddamwain, staff yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys a'r Uned Therapi Dwys yn Ysbyty Athrofaol Cymru a phob aelod arall o staff a ddangosodd gymaint o ofal ac anwyldeb tuag at Cei a’r teulu ar adeg mor anodd.
"Does neb yn berffaith. Ond daeth Ceirion Galliers yn agos iawn."
Mae teulu Ceirion yn cael eu cefnogi gan swyddog cyswllt teulu o Heddlu De Cymru.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i’r gwrthdrawiad traffig ffordd a ddigwyddodd ar gerbytffordd yr A4060 tua'r dwyrain rhwng Pentrebach a Mountain Hare ym Merthyr Tudful y rhoddwyd gwybod amdano tua 10.40pm nos Sadwrn 22 Gorffennaf.
Diwedd