Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
I rai, gall y Pasg fod yn adeg i fwynhau ychydig o ddiwrnodau ychwanegol o wyliau. Ond mae'n adeg bwysig iawn o'r flwyddyn i eraill, gan gynnwys Bugeiliaid y Stryd sy'n gwirfoddoli i gadw pobl yn ddiogel ar nosweithiau allan yng Nghaerdydd, Abertawe a Phontypridd.
Mae Bugeiliaid y Stryd, sef gwirfoddolwyr o wahanol eglwysi sy'n rhoi o'u hamser am ddim bob nos Wener a nos Sadwrn, yn cynnig cymorth ymarferol i bobl y mae angen help arnynt ar ôl noson allan neu a all fod yn agored i niwed.
Maent yn gweithio'n agos gyda ni yn yr heddlu, gan gynnig cymorth a chlust gyfeillgar a'n helpu i blismona'r economi liw nos.
Yng Nghaerdydd, mae tua 30 o wirfoddolwyr o ddwsin o eglwysi o wahanol enwadau, sydd wedi'u huno gan frwdfrydedd dros eu dinas ac awydd i gadw pobl yn ddiogel. Gwnaethom siarad â gwirfoddolwyr ynglŷn â'r rhesymau pam y maent yn cynnig eu hamser a'r hyn y mae'r Pasg yn ei olygu iddyn nhw.
Dyma beth y gwnaethant ei ddweud wrthym.
“Rydym yn gweithio ochr yn ochr â'r Ganolfan Triniaeth Alcohol, yr heddlu a staff drysau a wardeiniaid tacsis, a gyda'n gilydd, rydym yn dîm gwych! Rwy'n dwlu ar Gaerdydd, ac rwy'n awyddus i wasanaethu eraill yn y ffordd orau y gallaf er mwyn cadw pobl yn ddiogel. Rwyf hefyd yn mwynhau'r cyfeillgarwch a'r cyfle i ryngweithio â'r rhai rydym yn cyfarfod â nhw ac yn eu cefnogi.
“Mae hefyd yn rhoi cyfle i mi ddawnsio a chanu weithiau (!), hyd yn oed os bydda i'n gwneud hynny wrth wthio cadair olwyn er mwyn cadw'r claf yn effro tra byddwn ni'n mynd ag ef i'r Ganolfan Triniaeth Alcohol.
“Rydym yn rhan fach o gadwyn fawr hyfforddedig i ofalu am unigolion a all fod yn agored i niwed neu mewn sefyllfa beryglus a mynd â nhw i le cynnes a diogel (hyd yn oed os byddwn ni ond yn gwneud hynny nes i'w mam, eu tad neu eu modryb ddod i'w casglu).
“Ers dechrau gwirfoddoli, mae'n galonogol gweld, ar bob sifft, pa mor broffesiynol ac ymarferol ofalgar yw Heddlu De Cymru, y Ganolfan Triniaeth Alcohol a llawer o staff drysau. Rydym yn cysylltu â Heddlu De Cymru ar bob sifft, gan gynnwys drwy alwadau gan Charlie Romeo a bod yno i dderbyn achosion y gall Bugeiliaid y Stryd ddelio â nhw, er mwyn i ni allu rhyddhau'r heddlu i ddelio â sefyllfaoedd mwy difrifol.
“Rwyf wedi gweithio mewn mwy na dwsin o wledydd o'r blaen, ac mae Heddlu De Cymru yn sefyll allan oherwydd ei broffesiynoldeb a'r gofal y mae'n ei roi. Rwy'n gallu ymddiried ynoch chi wrth i mi weithio ochr yn ochr â chi.
“I mi, mae cysylltiad pendant rhwng y Pasg a'n gwaith fel Bugeiliaid y Stryd. Credwn i'r Iesu ddod i fyw yn ein plith, er mwyn rhoi neges o achubiaeth ddiogel a gobaith tragwyddol i bob un ohonom drwy Ei farwolaeth ddrudfawr. Mae'n galw arnom i garu ac anrhydeddu a gwasanaethu, i fod yn genhadon Drosto mewn byd llawn trafferthion sy'n brifo. Mae'r Pasg yn golygu popeth i ni. Ef yw'r rheswm pam mae Bugeiliaid y Stryd yn gwneud yr hyn rydym yn ei wneud.”
“Mae’n ymddangos yn rhywbeth syml iawn i'w wneud, bod yn bresenoldeb cyfeillgar ar y strydoedd, bod ar gael i helpu unrhyw un y mae angen cymorth arno, yn arbennig y rhai a allai fod yn agored i niwed oherwydd alcohol neu gyffuriau, neu sydd wedi cael eu gwahanu oddi wrth eu ffrindiau ac y mae angen help arnynt i ddod o hyd iddynt.
“Doeddwn i ddim yn credu y byddwn i'n addas ar gyfer y rôl hon nes i'r sawl a oedd yn rhoi sgwrs yn fy eglwys ddweud mai'r prif rinwedd yr oedd ei hangen oedd cariad at bobl. Dyma fi'n meddwl ‘Galla i wneud hynny!’ ac ymunais â'r tîm y noson honno.
“Rydym yn sôn am fod yn ‘eglwys ar y strydoedd’ a dod â'r Iesu at y bobl rydym yn cyfarfod â nhw. Mae pobl sydd am siarad â ni pan fyddan nhw’n ein gweld yn aml yn ein holi am ein ffydd, ac rydym yn fwy na pharod i sgwrsio am hyn. Ond yn bennaf oll, ein rôl yw bod yn fugeiliaid yn hytrach na phregethwyr. Rydym yn rhoi cymorth a chefnogaeth ymarferol i unrhyw un sydd eu hangen.
“Ar nos Wener neu nos Sadwrn brysur, gall fod miloedd o bobl allan ar y strydoedd ac er y bydd y rhan fwyaf ohonynt yn cadw'n ddiogel ac yn cael amser da, bydd bob amser rywun a fydd yn agored i niwed. Mae sawl rheswm gwahanol pam mae pobl yn troi at alcohol a chyffuriau, ac rydym wedi clywed llawer o'u straeon, ac yn aml maent yn ddigon i dorri'ch calon.
“Rydym yn gobeithio, drwy ddangos eu bod yn bwysig i ni a'i bod yn werth gofalu amdanyn nhw, y byddwn yn cael effaith barhaol arnynt.
“Rydym yn gweithio mor dda fel tîm gyda'r heddlu, staff drysau'r tafarndai a'r clybiau, staff y GIG yn y Ganolfan Triniaeth Alcohol a'r gwasanaeth ambiwlans. Rydym yn cadw mewn cysylltiad â'n gilydd drwy radio er mwyn i ni allu cael ein galw i helpu unigolion y mae angen ein cymorth arnynt. Yn aml, yr heddlu fydd yn cysylltu â ni er mwyn gofyn i ni ofalu am unigolion sy'n agored i niwed y maent wedi dod ar eu traws.
“Mae'n deimlad braf cyrraedd y lleoliad a gallu cymryd cyfrifoldeb am ofalu am rywun nad oes angen mwy nag ychydig o TLC arno o bosibl, neu y mae angen mynd ag ef i'r Ganolfan Triniaeth Alcohol, gan ryddhau'r heddlu i ddelio â materion mwy difrifol. Os byddwn yn delio â sefyllfa a all fod y tu hwnt i'n cylch gwaith, yn ein barn ni, gallwn ffonio'r heddlu am gymorth. Mae'n gweithio'n dda iawn ac nid wyf erioed wedi teimlo'n anniogel ar y strydoedd.
“Mae rhai o'r bobl rydym yn eu helpu yn synnu ein bod yn awyddus i'w helpu ac yn tybio, gan mai Cristnogion ydym, y byddwn yn ein beirniadu oherwydd y sefyllfa y maen nhw ynddi! Mae'n wych cael cyfle i chwalu'r ystrydeb honno. Edrychai'r Iesu ar y torfeydd â thosturi a'r un yw ein hymateb ni.
“Ar adeg y Pasg, mae Cristnogion yn credu i'r Iesu brofi y tu hwnt i amheuaeth ei gariad mawr at y byd drwy farw ar y groes ar Ddydd Gwener y Groglith ac atgyfodi o farw'n fyw ar ddydd Sul y Pasg. Credwn petai'r Iesu yn cerdded y ddaear heddiw, y byddai allan yng nghanol dinas Caerdydd yn gofalu am y bobl o'i amgylch ac yn tosturio wrthynt, felly dyna beth rydym am ei wneud hefyd.”
Dywedodd yr Arolygydd Jeff Lewis, o Adran Diogelwch Cymunedol Caerdydd a'r Fro:
“Rydym yn ddiolchgar iawn i Fugeiliaid y Stryd am eu hymdrechion hollbwysig yn y tîm mawr o asiantaethau ac unigolion sy'n gweithio i sicrhau bod Caerdydd yn lle diogel a phleserus i bobl gymdeithasu gyda'r nos.
“Weithiau gallant weld a synhwyro bod pobl yn agored i niwed a rhoi gwybod i'r asiantaeth briodol, ac mae'r ffaith y gellir ymddiried ym Mugeiliaid y Stryd i ofalu am rai pobl yn rhoi tawelwch meddwl i swyddogion ac yn eu rhyddhau i gynorthwyo yn rhywle arall.”