Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cynrychioli De Cymru yn yr Unol Daleithiau: mae'r Uwch-arolygydd Jason Rees wedi cael dechrau anhygoel i'r flwyddyn ar ôl graddio o Academi Genedlaethol enwog yr FBI.
Roedd Jason yn un o bron i 250 o swyddogion gorfodi'r gyfraith – y rhan fwyaf ohonynt o'r Unol Daleithiau – a gymerodd ran yn fersiwn ddiweddaraf y rhaglen 10 wythnos. Dilynodd y rhaglen ochr yn ochr â chydweithwyr yr heddlu o bron i 30 o wledydd eraill a 47 o daleithiau yn America.
Roedd y cwrs, a ariennir gan yr FBI, yn cyfuno gwaith academaidd, arholiadau, gwaith dysgu mewn grwpiau, a hyfforddiant corfforol, ac yn rhoi pwyslais ar egwyddorion fel arweinyddiaeth.
Dywedodd Jason, sy'n bennaeth y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus ac sydd wedi gweithio fel pennaeth gweithrediadau yng Nghaerdydd ac ym Mro Morgannwg yn y gorffennol:
“Roedd hi'n fraint enfawr cynrychioli Heddlu De Cymru yn Sesiwn 285 Academi Genedlaethol yr FBI yn Quantico, Virginia. Roedd hefyd yn fraint cynrychioli heddlu Cymru a'r DU.
“Bu'n rhaid i mi dreulio 10 wythnos i ffwrdd o'm teulu er mwyn mynd i'r Academi ac roedd hynny'n eithriadol o anodd, ond gweithiais yn galed i wneud yn siŵr eu bod yn falch ohonof yn fy absenoldeb.
“Roedd Academi Genedlaethol yr FBI yn gyfle euraid i rwydweithio ag uwch-arweinwyr yr heddlu o 29 o wledydd ledled y byd, gan gynnwys dros 200 o uwch-swyddogion gorfodi'r gyfraith o'r Unol Daleithiau. Rwyf wedi gwneud cysylltiadau a ffrindiau oes yn ystod fy amser oddi cartref.”
Jason oedd yr unig swyddog o'r DU ar y fersiwn hon o'r cwrs, ond roedd cydweithiwr o Heddlu Brenhinol Gibraltar ymhlith y garfan ryngwladol.
Wrth siarad am werth y cwrs, ychwanegodd:
“Roedd y profiad yn amhrisiadwy. Roedd fy ngwersi yn canolbwyntio ar faterion plismona cyffredinol ym meysydd arweinyddiaeth, cydnerthedd, llesiant a darparu gwasanaethau.
“Drwy gydol y cwrs, canolbwyntiais ar hyrwyddo Heddlu De Cymru ac, yn wir, Gymru a'r DU, i Academi Genedlaethol yr FBI ac asiantaethau byd eang.
“Rwyf wedi dysgu llawer o bethau o'm profiad yn yr Academi, ac un ohonynt yw persbectif a gwerthfawrogiad ein bod yn sefydliad eithriadol. Mae model plismona Prydain, a'r modd rydym ni yn Heddlu De Cymru yn darparu gwasanaethau plismona'n lleol, yn destun edmygedd ledled y byd ac yn uchelgais i lawer o asiantaethau yn fyd eang.
“Yn Heddlu De Cymru mae gennym arweinwyr, swyddogion a staff eithriadol ar bob lefel yn ein sefydliad ac rwyf wedi dychwelyd adref â mwy o werthfawrogiad a balchder fy mod yn rhan o DîmHDC.
“Hoffwn ddiolch i Heddlu De Cymru a'm cydweithwyr am fy nghefnogi yn fy absenoldeb ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ddychwelyd i'r gwaith.”
Siaradodd Cyfarwyddwr yr FBI Christopher Wray yn seremoni raddio Jason ac erbyn hyn, mae 54,154 o raddedigion wedi cwblhau Academi Genedlaethol yr FBI ers iddi gael ei sefydlu yn 1935.
Cynhelir yr Academi Genedlaethol yn Academi Hyfforddi'r FBI, lle mae'r FBI yn hyfforddi ei dadansoddwyr cuddwybodaeth a'i asiantau arbennig newydd.