Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
![]() |
![]() |
Cafodd Powell, 28 oed o Radur, ei ddedfrydu i bedair blynedd ac wyth mis, a chafodd Lima, 29 oed o Butetown, ei ddedfrydu i bedair blynedd a chwe mis yn y carchar.
Ym mis Awst 2022 cafodd Lima a Powell eu gweld yn cyrraedd bloc o fflatiau gyda'i gilydd ar Rutland Street, Caerdydd. Aethant i mewn ac allan o'r fflatiau yn gyflym a chawsant eu gweld yn gadael ar wahân. Cafodd Powell ei ddal gan yr heddlu funudau yn ddiweddarach.
Daethpwyd o hyd i gilo o gocên, gwerth rhwng £44,000 a £74,500, a £1500 mewn arian parod yn ei gyfeiriad. Ychydig yn ddiweddarach cafodd Lima ei weld yn gadael ei gar, a oedd yn cynnwys peiriant cyfrif arian parod a £1990 mewn arian parod.
Cafodd Lima ei arestio y diwrnod wedyn mewn cyfeiriad yn y Rhath lle roedd yn ymddangos fel pe bai'n paratoi i ffoi o'r wlad. Roedd ganddo bron i £4000 a chês yn llawn dillad drud.
Datgelodd yr ymchwiliad fod Lima wedi bod yn byw bywyd moethus a chadarnhaodd ei fod wedi talu dros £28,000 mewn arian parod i'w landlord am eiddo ym Mae Caerdydd. Pan chwiliwyd ei gyfeiriad, daethpwyd o hyd i fwy o ddillad drud gwerth £10,000. Darganfu'r swyddogion ymchwilio fod Lima hefyd wedi bod yn mynd ar deithiau rheolaidd i westai drud yn Sbaen a Dubai a'i fod wedi talu miloedd o bunnoedd am lawfeddygaeth gosmetig yn Nhwrci.
Plediodd y ddau ddyn yn euog ac fe'u dedfrydwyd ar 23 Mawrth 2023.