Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae cerddwr a fu mewn gwrthdrawiad â char ar Lanedeyrn Drive yn ardal Maelfa, Caerdydd ddydd Gwener 6 Ionawr wedi marw o ganlyniad i'w anafiadau.
Bu farw Philip Jones, 74 oed o Rymni, Caerdydd ar 11 Ebrill yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Mae teulu Philip wedi cyhoeddi'r deyrnged ganlynol:
“Bu farw Philip Jones, 74 oed ar 11 Ebrill yn Adran Niwroleg Ysbyty Athrofaol Cymru, ar ôl 3.5 mis o frwydro gydag anaf trawmatig i'r ymennydd.
“Mae Philip yn gadael dwy ferch, dau ŵyr, mab yng nghyfraith a chyn wraig yr oedd wedi parhau yn ffrindiau â hi. Ni all geiriau fynegi ein torcalon.
“Roedd Phil yn gymeriad a hanner ac yn adnabyddus iawn yn ei gymuned am ei synnwyr digrifwch, hoffter o sgwrsio ond yn y pen draw, ei barodrwydd i helpu unrhyw un gydag unrhyw beth roedd ei angen arnynt.
“Hoffem ddiolch i'r holl staff yn Ysbyty Athrofaol Cymru am eu gofal neilltuol o Philip.”
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i amgylchiadau'r gwrthdrawiad ac yn apelio ar i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad ac nad yw wedi cysylltu eto, ac unrhyw un y gall fod ganddo fideo o gamera dashfwrdd o'r digwyddiad, neu unrhyw un a welodd y modd yr oedd y Ford Fiesta llwyd yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad, wneud hynny.
Os gallwch helpu, cysylltwch â Heddlu De Cymru, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2300005656 drwy unrhyw un o'r dulliau canlynol: