Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Mohamed Yusef o Gaerdydd wedi cael pedair blynedd ac wyth mis yn y carchar am ladrad.
Ar 20 Tachwedd 2022, gwnaeth Yusef a oedd yn yrrwr tacsi, ladrata oddi ar fenyw oedrannus ar ôl ei dilyn hi o gasino a dwyn ei henillion.
Cafodd y ddioddefwraig 77 oed o'r Barri, ei thargedu gan Mohamed ar ei dreif, ar ôl iddo ddilyn ei char gartref o Les Croupiers yng Nghaerdydd.
Gwnaeth y dyn 38 oed ddwyn oddi arni ym mis Tachwedd ac unwaith eto ym mis Ionawr drwy gydio ym mag y ddioddefwraig cyn ffoi yn ei dacsi.
Gadawyd hi yn dioddef o anafiadau sylweddol i'w thalcen, toriadau i'r wyneb a bys bawd wedi'i dorri ar ôl iddi gwympo a chael ei llusgo ar hyd y llawr.
Cafodd yr ail ddigwyddiad ei ddal ar deledu cylch cyfyng a arweiniodd at swyddogion yn adnabod Mohamed gan sicrhau ei fod yn cael ei gyhuddo a'i gadw yn y ddalfa ddeuddydd yn ddiweddarach.
Cafodd swm mawr o arian parod ac eitemau personol eu dwyn.
Plediodd Mohamed o Gaerdydd yn euog i ddau achos o ladrad ac un achos o glwyfo. Cafodd bedair blynedd ac wyth mis o garchar a gorchymyn atal o 10 mlynedd. Mae'r ddioddefwraig a'i theulu wedi diolch i'r swyddogion am eu hymateb cyflym a'u cefnogaeth barhaus drwy gydol yr ymchwiliad.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Dan Todd, “Rwy'n croesawu dedfryd Mohamed Yusef. Mae'r lladrad treisgar targedig hwn wedi gadael ei ôl ar y wraig oedrannus ac rwy'n falch bod ein tîm wedi llwyddo i gael yr holl dystiolaeth i sicrhau cyhuddiad a chollfarn.”