Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Manylion a chanlyniadau gwrandawiad camymddwyn:
Ar 27 Mawrth 2023 trefnwyd gwrandawiad camymddwyn er mwyn delio â honiadau yn erbyn y Cyn Gwnstabl Julian John lle asesodd yr Awdurdod Priodol (AP) eu bod yn gyfystyr â chamymddwyn difrifol.
Cafodd y gwrandawiad ei gynnal yn unol â Rheoliadau (Ymddygiad) yr Heddlu 2012 (PCR 2012).
Cynhaliwyd y gwrandawiad yng Nghanolfan Dechnoleg Waterton, Pen-y-bont ar Ogwr.
Roedd y Panel gwrando yn cynnwys Cadeirydd â Chymwysterau Cyfreithiol (LQC), Mr Callum Cowx, Aelod o Banel yr Heddlu (PPM), yr Uwch-arolygydd Marc Attwell o Heddlu De Cymru (HDC), ac Aelod Panel Annibynnol (IPM), Mr Malcolm Gay.
Cafodd yr AP ei gynrychioli gan y cwnsler Mr Barney Branston.
Cafodd y swyddog ei gynrychioli gan y Cwnstabl Leigh Godfrey o Ffederasiwn yr Heddlu.
Mynychodd y Cyn Gwnstabl John ddiwrnod cyntaf y gwrandawiad yn unig a rhoddodd dystiolaeth.
Cyn y gwrandawiad terfynol, cytunwyd rhwng y partïon nad oedd angen i dystion roi tystiolaeth.
Daeth y gwrandawiad i ben ar 29 Mawrth 2023.
Honiadau, canfyddiadau a chanlyniadau:
Roedd honiadau 1 a 2 yn ymwneud â'r Cwnstabl John yn cyflwyno manylion gweithdrefnau anadliadur a gynhaliodd, y profwyd eu bod yn anghywir. Roedd honiad 2 yn gyfystyr â chamymddwyn difrifol, ni phrofwyd y llall.
Honiad 3 oedd iddo ffurfio cyfeillgarwch/perthynas â dynes a oedd yn agored i niwed yr ystyriwyd i hynny fod yn amhriodol. Roedd yr ymddygiad a ddisgrifiwyd yn yr honiad hwn, a gafodd ei brofi, mor ddifrifol fel y gellid cyfiawnhau diswyddo o bosibl ac roedd felly yn gamymddwyn difrifol.
Honiad 4 oedd i'r cyn swyddog ddefnyddio system gyfrifiadurol yr heddlu i gynnal gwiriadau ar y ddynes ac aelodau eraill o'i theulu. Ni chafodd hyn ei brofi.
Y canlyniad y penderfynwyd arno gan y panel oedd y byddai'r Cwnstabl John wedi cael ei ‘Ddiswyddo heb rybudd petai'n dal yn swyddog a oedd yn gwasanaethu’.