Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r dyn 54 oed a gafodd ei anafu yn dilyn digwyddiad ar Ffordd y Gogledd, Caerdydd ddydd Mawrth 28 Mawrth wedi marw yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Ei enw oedd Mark Lang ac roedd yn dod o ardal Cyncoed yn y ddinas.
Mae partner Mark wedi talu'r deyrnged ganlynol iddo:
“Mae'n anodd cyfleu mewn geiriau sut rydym yn teimlo. Dydw i ddim yn meddwl y gallwn ni byth ddod dros rhywbeth mor greulon a dibwrpas yn y pen draw.
“Diolchwn i'r holl wasanaethau brys a wnaeth eu gorau i'w achub, i'r bobl a oedd yn lleoliad y digwyddiad a dyrrodd o'i amgylch a galw am help, a'r holl staff yn Ysbyty Athrofaol Cymru a wnaeth yn siŵr bod ei ddiwrnodau olaf yn gyfforddus ac a fu'n gweithio'n ddiflino i'w helpu ef a'r teulu. Drwy gydol hyn i gyd, mae wedi bod yn gysur gweld cymaint o gariad a chefnogaeth gan gynifer o bobl a oedd yn adnabod Mark. Ffrindiau, cydweithwyr, cyn-gydchwaraewyr yn ogystal â chwsmeriaid a'u cŵn.
“Rydym wedi cael llawer o eiriau caredig a gwnaethom eu rhannu ag ef. Gallwch dybio felly ei fod yn ymwybodol o'ch geiriau caredig ac yn hapus iawn i'w clywed. Roedd Mark yn ddyn da, gyda llawer o gariad i'w roi. Bu farw yn oriau mân y bore a'i deulu o'i gwmpas. Yn heddychlon. Yn gyfforddus. Wedi'i garu.
“Bydd colled aruthrol ar ei ôl. X”