Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i farwolaeth dyn 61 oed yn Abertawe.
Aeth yr Heddlu i eiddo yn Orchard Court ar New Orchard Street, yng Nghanol Dinas Abertawe, am 12.45pm ddydd Sul 9 Ebrill.
Mae dyn 38 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, ac mae yn nalfa'r heddlu o hyd.
Mae teulu'r dyn 61 oed yn cael ei gefnogi gan swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n arbenigol a disgwylir i broses adnabod ffurfiol ddigwydd.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Powell o'r Tîm Ymchwilio i Droseddau Mawr "er bod unigolyn dan amheuaeth wedi cael ei arestio, rydym ar gamau cynnar yr ymchwiliad o hyd. Rwy'n apelio ar unrhyw un sy'n byw yng nghymuned New Orchard Street, neu gerllaw, ac a all fod â gwybodaeth ynghylch y digwyddiad hwn i gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu rhif digwyddiad 2300112785"
Sgwrs Fyw (9am-4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener) https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
Cysylltwch â ni drwy https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/ffurflenni-cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
E-bostiwch [email protected]
101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.