Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r Gwasanaethau Brys a phartneriaid lleol yn dal ar safle digwyddiad cerddoriaeth heb ei drwyddedu ar Ystad Ddiwydiannol Cynffig.
Mae un person arall wedi cael ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau nad ydynt yn ddifrifol. Mae nifer bach o gerbydau a phobl yn dal yno.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Mark Travis "Rydym yn gweithio gyda'r rheini sy'n bresennol ar safle'r digwyddiad i sicrhau eu bod yn gwneud eu ffordd o'r safle yn ddiogel, gan barchu'r trigolion lleol ar yr un pryd. Mae’r digwyddiad bellach yn dod i'w derfyn ac mae’r rhai a fu yno wedi bod yn gadael drwy gydol y prynhawn.”
“Rydym wedi gweithio gydag asiantaethau partner i sicrhau bod y rhai sydd angen help wedi cael cymorth. Mae’n siomedig ar un o ddiwrnodau prysuraf y flwyddyn bod cymaint o adnoddau wedi’u dargyfeirio o gefnogi cymunedau lleol i reoli digwyddiad anghyfreithlon.”
"Hoffwn ddiolch i'r gymuned leol am eu hamynedd a'u cefnogaeth".