Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r dyn a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffyrdd ar draffordd yr M4 ddydd Llun 17 Ebrill, wedi'i enwi'n Mathew Paul Sweeney, 44 oed, o Danescourt yng Nghaerdydd.
Mae partner Mathew, Alex James, wedi talu'r deyrnged ganlynol iddo:
“Mae marwolaeth sydyn Mathew wedi bod yn ysgytwad mawr i ni. Roedd yn ddyn preifat, ac yn ddyn teulu ffyddlon i'r carn. Roedd yn bartner cariadus, ac yn dad a mab balch. Bydd pawb a oedd yn ei adnabod yn gweld ei eisiau am byth.
“Fel teulu hoffem ddiolch i bawb yn safle'r digwyddiad a stopiodd i gynnig helpu. Rhaid sôn yn arbennig am y gwasanaethau brys a oedd wedi ymateb ac wedi gwneud eu gorau glas i'w helpu.
“Yr hyn sydd ei angen arnom nawr fel teulu yw amser a lle i geisio prosesu'r hyn sydd wedi digwydd a gofynnwn yn barchus ein bod yn cael y cyfle i wneud hynny.”
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad a ddigwyddodd tua 2.30pm ar 17 Ebrill rhwng cyffyrdd 36 a 37, pan darodd fan Mercedes Sprinter i mewn i'r llain ganol.
Gofynnir i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu sydd â fideo dashfwrdd o'r digwyddiad gysylltu â swyddogion gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2300122673, os nad ydynt wedi gwneud hynny'n barod.
Gallwch gysylltu â Heddlu De Cymru drwy un o’r ffyrdd canlynol:
🗪 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
💻 Rhoi gwybod ar-lein https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio
📧 E-bost [email protected]
📞 101