Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
#CARCHARU l Mae Sean Owen o Bontprennau, Caerdydd, wedi'i ddedfrydu i bum mlynedd yn y carchar am ymosodiad rhywiol ac ymddygiad rheolaethol/gorfodaethol.
Gwrthododd Owen y troseddau ond fe'i cafwyd yn euog yn dilyn treial yn Llys y Goron Caerdydd.
Gwnaeth y dyn, 29 oed, gam-drin ei gyn-bartner, Gabrielle Dale, ar lafar ac yn gorfforol dros gyfnod o saith mlynedd.
Arweiniodd hyn at ymosodiad rhywiol, ac yn ddewr iawn, cysylltodd Gabrielle, 26 oed, â Heddlu De Cymru ym mis Mehefin 2020.
Mae Gabrielle wedi ildio ei hawl i anhysbysrwydd er mwyn annog eraill sy'n dioddef o'r un fath o gam-drin i gysylltu â'r heddlu.
Mewn datganiad personol dioddefwr, dywedodd: “Er fy mod yn dal i ddioddef ac yn ei chael hi'n anodd ymdopi bob dydd, rwy'n gwrthod byw fy mywyd fel hyn, rwyf am allu cerdded i ffwrdd o'r sefyllfa wenwynig hon yn y gobaith na fydd yn fy mrifo byth eto.
“Rwy'n fenyw annibynnol gref nawr. Rwyf am allu dileu'r holl ddifrod sydd wedi'i wneud.”
Cafodd Owen ei garcharu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth, 25 Ebrill a chafodd orchymyn atal hefyd.
Yn dilyn y gwrandawiad, diolchodd Gabrielle i swyddog yr achos am roi ‘cymorth ardderchog’ drwy gydol yr ymchwiliad, gan ddweud “Rydych wedi fy helpu mewn sawl ffordd ac wedi rhoi tawelwch meddwl i mi pan oedd gennyf amheuon. Byddaf yn ddiolchgar am yr holl gymorth gennych am byth” .
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl, David Simmons o Heddlu De Cymru: “Gwnaeth Sean Owen beri cymaint o ddiflastod i fywyd Gabrielle, a'i gadael yn teimlo'n ofnus, yn bryderus, ac yn ddiymadferth.
“Dangosodd ddewrder anhygoel, wrth gysylltu â ni yn y lle cyntaf, ond hefyd drwy barhau â'i chwyn yn ddiwyro er gwaethaf yr heriau niferus ar hyd y ffordd.
“Rwy'n gobeithio y bydd euogfarn a dedfryd Owen yn rhoi rhywfaint o gysur iddi ac yn ei galluogi i ddechrau ailadeiladu ei bywyd.
“Mae ymddygiad gorfodaethol a rheolaethol fel arfer yn datblygu dros amser, a gobeithio y bydd y gollfarn hon hefyd yn helpu pobl eraill sy'n dioddef y math hwn o ymddygiad ofnadwy i wybod y caiff pob achos y rhoddir gwybod amdano ei gymryd o ddifrif, ac y caiff dioddefwyr eu cefnogi'n llawn."
Gellir dod o hyd i wybodaeth am gam-drin domestig yma: