Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymddangosodd Luke Deeley, 26 oed, yn Llys y Goron Casnewydd heddiw a chyfaddef dynladdiad ar y sail nad oedd yn llawn gyfrifol am farwolaeth June Fox-Roberts, 65 oed, ar 21 Tachwedd 2021.
Cafodd Deeley, o Bontypridd, ei roi o dan orchymyn ysbyty am gyfnod amhenodol gyda chyfyngiadau.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matthew Powell, o Uned Troseddau Mawr Heddlu De Cymru:
“Ddydd Sul, 21 Tachwedd, 2021, cafodd Heddlu De Cymru alwad gan un o blant June a oedd, ar y cyd â ffrind agos i'r teulu, wedi canfod June wedi marw yn ei chartref, yn yr amgylchiadau mwyaf erchyll.
“Plediodd Luke Deeley yn euog i ddynladdiad ar y sail nad oedd yn llawn gyfrifol. Mae gorchymyn ysbyty a chyfyngu yn golygu na fydd yn cael ei ystyried i'w ryddhau i'r gymuned tan y credir y bydd yn ddiogel gwneud hynny.
“Mae hwn wedi bod yn ymchwiliad manwl sydd wedi golygu misoedd o waith gwerthuso seiciatrig ochr yn ochr â'r ymchwiliad troseddol.
“Hoffwn ddiolch i bawb a gynorthwyodd fy nhîm a minnau, gan gynnwys tystion allweddol, cymuned ehangach Llanilltud Faerdref a phartneriaid a weithiodd gyda ni. Heb gymorth pawb, ni fyddai'r ymchwiliad wedi gwneud cynnydd mor gyflym i deulu June sydd wedi dangos cymaint o amynedd ac urddas wrth aros am atebion ynghylch sut y bu June farw.
“Drwy gydol yr ymchwiliad, mae teulu June wedi cael eu cefnogi drwy'r cyfan gan swyddogion arbenigol wrth i ni ofyn i sawl arbenigwr am help i esbonio'r anafiadau a gafodd June
“Rwy'n sylweddoli na all yr atebion yr ydym wedi gallu eu rhoi iddynt na'r ddedfryd heddiw ddod â June yn ôl, ond gobeithio y gall ein hymchwiliad a'n cefnogaeth barhaus i deulu June roi rhywfaint o gysur iddynt a'u galluogi i alaru gyda dealltwriaeth well o'r hyn a ddigwyddodd.”
Teyrnged gan deulu June Fox-Roberts
“Ddydd Sul, 21 Tachwedd, 2021, cafodd ein byd ei chwalu. Cafodd June Fox-Roberts ei chymryd oddi wrthym mewn ffordd erchyll gan ddieithryn llwyr.
“Roedd June yn fam, yn fam-gu ac yn hen fam-gu ac roedd wrth ei bodd yn treulio amser gyda'i theulu estynedig. Roedd yn meddwl y byd o'i phlant a'i hwyrion ac er y byddai'n disgwyl safonau uchel gennym, byddai'n gwneud unrhyw beth i'n cefnogi a'n hannog. Treuliodd oriau lu yn dysgu sgiliau amrywiol i'w hwyrion gan gynnwys pobi, garddio, gwau a chrefftau, ac yn adrodd straeon iddynt am 'ddyddiau da' ei phlentyndod. Roedd June yn teimlo mor gyffrous i gwrdd â'i gor-wyres a anwyd yn gynharach y mis hwnnw ond, yn anffodus, cipiodd Luke y cyfle hwnnw oddi wrthi.
“Roedd June yn llawn bywyd, yn eithriadol o ddiwyd, yn benderfynol ac yn wydn iawn ar ôl goresgyn sawl her ar hyd ei bywyd. Cafodd yrfa amrywiol o redeg fferm ieir, helpu plant dan anfantais mewn ysgolion, rhedeg siop goffi, i weithio fel contractiwr TG a thafarnwraig. Roedd June wedi gwneud ffrindiau ledled y byd wrth deithio gyda'i gwaith ac roedd yn edrych ymlaen at ymddeol fel y gallai dreulio mwy o amser gyda'i ffrindiau a'i theulu.
“Roedd hi bob amser yn barod am her ac yn byw bywyd i'r eithaf bob dydd. Roedd ganddi synnwyr digrifwch direidus a chwerthiniad heintus. A byddai June bob amser yn barod i rannu ei chyngor neu ei phrofiadau er mwyn helpu'r bobl o'i chwmpas. Roedd June yn ddynes draddodiadol. Roedd hi wrth ei bodd gyda byd natur a garddio, marchogaeth pan roedd hi'n ifanc, a phobi a'i gwir gariad oedd ei chŵn Alsasaidd. Roedd wedi cael sawl ci dros y blynyddoedd ac mae ei chyfaill ffyddlon olaf, Aggy, bellach yng ngofal ei merched, fel y byddai June wedi dymuno.
“Roedd gan June galon enfawr a byddai croeso cynnes i bawb a fyddai'n ymweld â'i chartref – roedd pawb yn gwybod na fyddai modd i chi adael ei chartref na'i gardd heb gael paned neu wydraid o win a chlonc yn gyntaf. Ac roedd yn hael, os oedd gan unrhyw un broblem, byddai'n gwneud popeth o fewn ei gallu i helpu, sy'n golygu ei bod yn gymaint anos derbyn y gallai Luke fod mor greulon iddi heb unrhyw reswm. Nid oedd ofn marw ar June ond roedd am farw'n dawel gyda'i theulu o'i chwmpas. Cipiodd Luke yr hawl honno oddi wrthi hi a phob un ohonom pan gipiodd ei bywyd cyn diwedd ei hoes naturiol.
“Roedd gan June gynlluniau i adeiladu byngalo ei breuddwydion ar gyfer ei hymddeoliad ac roedd wedi cynllunio gardd hyfryd a rhandir i ddianc iddynt. Mae ei phlant yn parhau â gardd June er cof amdani ac maent wedi bod yn ffodus i gael rhoddion gan ffrindiau a theulu er mwyn gwireddu breuddwyd June drwy ei thudalen GoFundMe.
“Hoffai'r teulu ddiolch i Heddlu De Cymru am eu gwaith caled yn dod o hyd i Luke Deeley a'i ddal yn gyflym. Rydym yn fodlon mai'r ddedfryd hon yw'r canlyniad gorau posibl i bawb.
“Roedd June yn berson bythgofiadwy. Roedd yn gymeriad cryf ac afieithus.
“June oedd ein teulu, ein ffrind, ein hangor a'n lle diogel a byddwn yn teimlo'r golled hon gydol ein hoes.”