Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Heddiw (28/04/2023) yn Llys y Goron Caerdydd, cafwyd Olabisi Abubakar, 42 oed, o Gaerdydd yn ddieuog o ddynladdiad a chreulondeb i blant yn ymwneud â marwolaeth ei mab tair oed Taiwo oherwydd gwallgofrwydd.
Mae tad Taiwo wedi rhyddhau'r datganiad canlynol:
“Roedd Taiwo yn fachgen anhygoel, roedd yn bleser ei fagu.
“Y tro cyntaf i mi weld Taiwo, rhoddodd y fath lawenydd i mi, roeddwn i wrth fy modd.
“Hoffwn pe bai Taiwo yma o hyd, ond rwyf am ei gofio fel yr oedd, yn fachgen hapus a siaradus.”
Rhoddwyd gwybod am bryderon ynghylch lles Taiwo i Heddlu De Cymru ar 29 Mehefin, 2020.
Aeth swyddogion i gyfeiriad ei gartref ar unwaith a chanfod ei fod wedi marw.
Dywedodd swyddog yr achos, sef y Ditectif Ringyll John Harris o Heddlu De Cymru: “Roedd hwn yn achos cymhleth a thrasig. Mae ein meddyliau gyda Taiwo a phawb oedd yn ei adnabod a'i garu."
Bydd gorchymyn ysbyty yn cael ei roi ar Olabisi Abubaker yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth, 2 Mai.
Mae hi yn yr ysbyty o hyd.