Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru Jeremy Vaughan wedi ailddatgan ymrwymiad yr heddlu i ddefnyddio technoleg adnabod wynebau heddiw er mwyn cadw'r cyhoedd yn ddiogel.
Cynhaliwyd cyfres o ymarferion treialu a phrofi a gwerthuso data a chadarnhawyd nad yw'r ffordd gyfrifol y defnyddir y dechnoleg gan Heddlu De Cymru yn gwahaniaethu ar sail rhywedd, oedran na hil.
Amlygodd dyfarniad blaenorol gan y Llys Apêl feysydd roedd angen eu harchwilio a'u datrys, gan gynnwys ein dyletswydd cydraddoldeb. Mae'r gwaith hwn wedi cael ei gwblhau ac mae canlyniadau'r gwerthusiad annibynnol yn dangos nad oes risg y bydd y dechnoleg yn mynd yn groes i ofynion cydraddoldeb ar sail tuedd neu wahaniaethu. Cyhoeddwyd yr adroddiad gan y Labordy Ffisegol Cenedlaethol heddiw.
Bydd y defnydd o dechnoleg adnabod wynebau byw yn ailddechrau nawr.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan, sydd hefyd yn arweinydd plismona cenedlaethol ar fiometreg:
“Fy mlaenoriaeth o hyd fydd diogelu'r cyhoedd wrth barhau i fynd ar ôl y bobl hynny sy'n benderfynol o achosi niwed yn ein cymunedau. Mae'n bwysig defnyddio technoleg newydd i'n helpu i gyflawni hynny.
“Mae'n briodol bod ein defnydd o dechnoleg yn destun her gyfreithiol a chraffu ac mae'r gwaith sydd wedi'i gyflawni i graffu ar y dechnoleg arloesol hon a'i phrofi yn rhoi'r hyder i mi ein bod yn cyflawni ein rhwymedigaethau cydraddoldeb.
“Mae'r astudiaeth yn cadarnhau nad yw'r ffordd y mae Heddlu De Cymru yn defnyddio'r dechnoleg yn mynd yn groes ar sail rhywedd, oedran na hil ac mae hyn yn atgyfnerthu fy nghred ers tro bod y defnydd o dechnoleg adnabod wynebau yn beth buddiol a bydd yn ein helpu i gadw'r cyhoedd yn ddiogel ac yn ein helpu i nodi troseddwyr difrifol er mwyn diogelu ein cymunedau rhag unigolion sy'n peri risg sylweddol.
“Rwy'n credu y bydd y cyhoedd yn parhau i gefnogi ein defnydd o'r holl ddulliau a thechnoleg sydd ar gael i'w cadw'n ddiogel a diolch i waith y Labordy Ffisegol Cenedlaethol a chanlyniadau'r gwerthusiad annibynnol rwy'n credu ein bod mewn gwell sefyllfa nag erioed o'r blaen i allu dangos bod y defnydd o dechnoleg adnabod wynebau yn deg, yn ddilys, yn foesegol ac yn gymesur.”
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i ddatblygu a defnyddio'r dechnoleg adnabod wynebau'n ofalus, ac mae'n ymfalchïo yn y ffaith na fu erioed arestiad anghyfreithlon o ganlyniad i ddefnyddio'r dechnoleg yn Ne Cymru mewn amgylchedd byw.
Cyn yr her yn y Llys Apêl, arweiniodd y defnydd amser byw o dechnoleg adnabod wynebau yn ardal yr heddlu at arestio 61 o bobl am droseddau, gan gynnwys lladrad â thrais, dwyn a pheidio ag ymateb i warantau llys. Cafodd y dechnoleg ei defnyddio mewn digwyddiadau yn amrywio o ddigwyddiadau chwaraeon a cyhoeddus mawr yng Nghaerdydd ac Abertawe i gefnogi ymgyrchoedd i fynd i'r afael â throseddoldeb lleol.
Ers yr her gyfreithiol rydym wedi gweld datblygiad Cod Ymarfer Comisiynydd Camerâu Gwyliadwriaeth ac Ymarfer Proffesiynol Awdurdodedig y Coleg Plismona sy'n nodi ein rhwymedigaethau wrth ddefnyddio technoleg adnabod wynebau byw.
Ychwanegodd Mr Vaughan:
“Nid oedd dim beth yn nyfarniad y Llys Apêl a oedd, yn y bôn, yn tanseilio'r defnydd o dechnoleg adnabod wynebau er mwyn diogelu'r cyhoedd, ac rwy'n falch bod y gwaith sydd wedi cael ei wneud yn rhoi'r hyder i ni gyflawni ein rhwymedigaethau fel sefydliad yn y sector cyhoeddus o ran effaith ar gydraddoldeb ac wedi cryfhau'r polisïau gweithredol a'r canllawiau sydd gennym ar waith, i wrthsefyll yr her gyfreithiol gadarnaf a chraffu cyhoeddus.”
Caiff y canlyniadau llawn eu cyflwyno yn yr adroddiad a gomisiynwyd gan y Labordy Ffisegol Cenedlaethol: ‘Facial Recognition Technology in Law Enforcement Equitability Study’
Mae rhagor o wybodaeth am y profion ar gael yn y Strategaeth Brawf ar gyfer Astudiaeth Tegwch Technoleg Cydnabod Wynebau mewn Gorfodi’r Gyfraith.