Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:18 10/02/2023
Yn ogystal, tynnodd Richard Mountstephens, o Trowbridge, a Kelly Thomas, o Fynachdy, luniau anweddus o'r plentyn a'u lanlwytho i wefan sy'n hysbysebu gwasanaethau rhywiol.
Gwnaethant feithrin perthynas amhriodol â'r ferch a'i gorfodi i gael rhyw â nifer o ddynion.
Ar ôl wythnosau o gamdriniaeth, dywedodd y ferch wrth ei theulu a chafodd Mountstephens a Thomas eu harestio ym mis Ebrill 2020.
Gwnaethant wadu'r troseddau ond cafwyd y ddau yn euog o reoli plentyn mewn perthynas â chamfanteisio rhywiol.
Cafwyd Mountstephens yn euog hefyd o dri chyhuddiad o feddu ar luniau anweddus o blentyn a gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Ddydd Mercher, 8 Chwefror, cafodd y ddau eu carcharu yn Llys y Goron Caerdydd.
Cafodd Mountstephens, 34 oed, ei ddedfrydu i wyth mlynedd a hanner yn y carchar a chafodd Thomas, 32 oed, ei dedfrydu i chwe blynedd yn y carchar.
Yn ogystal, mae'r ddau ohonynt wedi'u cynnwys ar y Gofrestr Troseddwyr Rhyw a byddant yn destun Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol am 10 mlynedd a Gorchymyn Atal Cyswllt am gyfnod amhenodol mewn perthynas â'r dioddefwr.
Dywedodd swyddog yr achos, sef y Ditectif Gwnstabl Rachel Green o Heddlu De Cymru: “O ddechrau'r ymchwiliad, roedd y ddau wedi gwadu'n daer eu bod yn euog o'r troseddau.
“Roedd Mountstephens hyd yn oed wedi ceisio newid tystiolaeth allweddol drwy newid y dyddiadau y cafodd lluniau anweddus eu lanlwytho i'r wefan.
“Roedd llawer o adrannau arbenigol wedi cymryd rhan yn yr ymchwiliad gan gynnwys yr adran fforenseg, yr adran ymchwiliadau ariannol, yr adran dadansoddi cuddwybodaeth a'r adran fforenseg ddigidol ac rydym yn falch bod cyfiawnder bellach wedi cael ei weinyddu.
“Mae'r effaith ar y dioddefwr wedi bod yn ddinistriol ond mae wedi bod yn hynod o gryf ac amyneddgar ers dechrau'r ymchwiliad hwn.
“Rydym yn gobeithio y bydd y rheithfarnau a'r dedfrydau heddiw yn dod â rhyw fath o ddiweddglo iddi ac yn ei galluogi i ddechrau'r broses o adfer ei hyder.”
Mae gwybodaeth, cyngor a sicrwydd, yn ogystal â gwasanaeth ar-lein penodol i roi gwybod am droseddau rhywiol, ar gael ar ein gwefan.