Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd Karl Legg ei arestio yn dilyn ymchwiliad tair wythnos o hyd i sawl achos o fwrgleriaeth.
Mae Karl Legg wedi'i garcharu am chwe blynedd ac mae ei gyd-droseddwr, Michael Truman, wedi'i garcharu am bum mlynedd.
Cafodd Legg, 37 oed o Gabalfa, ei arestio ym mis Rhagfyr 2021 yn dilyn ymchwiliad tair wythnos o hyd i sawl achos o fwrgleriaeth.
Cafodd Truman, 33 oed o Ben-y-lan, ei arestio fis yn ddiweddarach.
Roedd y ddau yn gweithio gyda'i gilydd. Byddai Legg yn mynd i mewn i dai drwy ddrysau heb eu cloi i ddwyn allweddi ceir a cheir, cyn eu trosglwyddo i Truman.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Mike Healy o Heddlu De Cymru: “Mae Legg yn droseddwr haerllug didrugaredd nad oedd yn poeni dim am fynd i mewn i dŷ rhywun arall tra roedd gartref.
“Datgelodd deunydd fideo teledu cylch cyfyng a data ffôn symudol ei fod yn dwyn cerbydau ar ran Truman, a oedd yn ei yrru i ardaloedd i gyflawni bwrgleriaeth. Mae'n debygol y cafodd y cerbydau wedi'u dwyn, gan gynnwys fan gwersylla teuluol, eu gwerthu wedi wedi hynny ond yn anffodus, nid ydym wedi llwyddo i ddod o hyd iddynt.
“Mae eu gweithredoedd wedi distrywio bywydau pobl. Nid yn unig y trawma o gael lleidr yn eich cartref ond hefyd y gost a'r anghyfleustra o brynu cerbyd arall.
“Rydym yn gobeithio y caiff y dioddefwyr rywfaint o dawelwch meddwl o wybod na fydd Legg na Truman yn dychwelyd am amser hir iawn.”
Treuliodd ditectifs oriau yn archwilio deunydd fideo o gamerâu traffig, teledu cylch cyfyng a chlychau drysau er mwyn adnabod y rhai dan amheuaeth.
Datblygodd yr achos pan nad oedd Legg wedi gorchuddio ei wyneb yn llawn wrth iddo geisio agor drws ffrynt a chafodd ei ddal ar gamera.
Bu'r car arian yr oedd Truman yn ei yrru i gludo Legg mewn gwrthdrawiad traffig ffyrdd yn ddiweddarach, a daethpwyd o hyd i eitemau a oedd wedi'u dwyn yn ystod un o'r bwrgleriaethau.
Ychwanegodd DS Healy: “Mae dioddef bwrgleriaeth yn brofiad trawmatig ac mae'n flaenoriaeth i Heddlu De Cymru atal a chanfod troseddau o'r fath.”
Cafodd Legg ei ddyfarnu'n euog o gynllwynio i gyflawni bwrgleriaeth, 12 o fwrgleriaethau a phedwar achos o geisio cyflawni bwrgleriaeth.
Cafodd Truman ei ddyfarnu'n euog o gynllwynio i gyflawni bwrgleriaeth, dwyn dau gerbyd modur a dau achos o drafod nwyddau wedi’u dwyn.
Cawsant eu dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun, 30 Ionawr.