Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd Callum Watts, o Dredegar, ei arestio am drosedd gyrru ar 31 Rhagfyr. Roedd ffôn symudol yn ei feddiant yn cynnwys negeseuon a oedd yn ymwneud â chyffuriau, gan ddangos ei fod yn gysylltiedig â chyflenwi cyffuriau Dosbarth A.
Datgelodd yr ymchwiliad fod y dyn 24 oed yn rhedeg llinell gyffuriau Dosbarth A sefydledig ledled Pontypridd ac ardal Cwm Rhondda.
Ddydd Mercher (15 Chwefror), ymddangosodd Watts gerbron Llys y Goron Caerdydd gan bledio'n euog i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A a throsedd gyrru. Cafodd ei ddedfrydu i bedair blynedd yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Lia Jones:
“Byddwn yn parhau â'n hymdrechion di-baid i fynd i'r afael â chyflenwi cyffuriau a phob math o droseddoldeb cyfundrefnol sy'n effeithio ar y cymunedau a wasanaethir gennym.
“Dim ond un enghraifft yw'r achos hwn o'r ffordd y mae ein Huned Troseddau Cyfundrefnol ym Morgannwg Ganol yn mynd i'r afael ag achosion o werthu cyffuriau yn y gymuned.
“Gallwn weithredu ar y wybodaeth a gawn gan y cyhoedd, ac rydym yn gwneud hynny'n rheolaidd, felly parhewch i gysylltu â ni.
“Anogir unrhyw un sydd ag amheuon neu wybodaeth am achosion o gyflenwi cyffuriau anghyfreithlon i gysylltu â ni.”
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.
Cafodd yr ymchwiliad hwn, a gwaith tebyg arall, eu cefnogi gan gyllid ychwanegol gan y Ganolfan Cydgysylltu Llinellau Cyffuriau Genedlaethol.