Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Anthony Searl o Gaerdydd wedi cael ei ddyfarnu'n euog o achosi dioddefaint diangen i gŵn.
Mae dyn wedi’i wahardd rhag cadw anifeiliaid am ddeng mlynedd ar ôl iddo gael ei ddyfarnu'n euog o achosi dioddefaint diangen i gŵn.
Dedfrydwyd Anthony Searl o Dongwynlais, Caerdydd, i garchar am 12 mis, wedi'i gohirio am 18 mis.
Cafodd y dyn 35 oed ei arestio ym mis Rhagfyr 2012, pan ddaeth Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a oedd ar batrôl ar draws dau gi oedd wedi’u gadael, un ohonynt wedi’i daro gan gar, yn y stryd.
Arweiniodd hyn at achub pum ci arall mewn eiddo cyfagos.
Dywedodd Rhingyll yr Heddlu, Matthew Fairweather: “Ar ôl dod ar draws y ddau gi yn y stryd, cynhaliodd Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu lleol Tori Miller, Katie Roberts a Melanie Lewis ymholiadau gyda thrigolion a milfeddygon a gwnaethant lwyddo i nodi o ba gyfeiriad yr oedd y cŵn wedi dod.
“Aethon ni i'r eiddo a darganfod chwipet, y disgrifir nad oedd yn ddim mwy na chroen ac asgwrn, wedi'i gloi mewn cwpwrdd, heb unrhyw fwyd na dŵr ac wedi'i orchuddio â'i ysgarthion ei hun.
"Roedd tri daeargi bach bach wedi'u cloi mewn ystafell arall a'u mam yn yr ystafell ymolchi, i gyd yn cael eu cadw dan yr un amodau ofnadwy.
“Cafodd y perchennog ei arestio, ac aethpwyd â’r cŵn at y milfeddyg.
Rhyddhawyd y daeargwn i gartref cŵn lleol ac maent wrthi'n cael eu hailgartrefu. Yn anffodus bu’n rhaid i’r chwipiaid dreulio mwy o amser gyda’r milfeddyg yn derbyn triniaeth am eu hanafiadau a diffyg maeth, ond maent bellach yn iach diolch byth ac wrthi'n cael eu hailgartrefu.”
Cyfaddefodd Anthony Searl i achosi dioddefaint i anifeiliaid yn ddiangen a chafodd ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Gwener, 10 Chwefror.