Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
09:49 22/02/2023
Mae Barry Cooke o Abertawe wedi cael ei ddedfrydu i bedair blynedd a hanner yn y carchar am ymgais i ladrata.
Pwyntiodd Cooke, 42 oed, wn ffug at fenyw 18 oed yn y stryd a'i gorchymyn i roi ei heiddo iddo ym mis Tachwedd y llynedd.
Dilynodd y fenyw a cheisiodd loches yng nghar ei ffrind ar Duke Street, Abertawe. Parhaodd Cooke i orchmyn ei bod yn rhoi ei heiddo iddo, gan bwyntio'r gwn trwy ffenestr y car a churo ar foned y car. Yn y diwedd, rhedodd o’r lleoliad wrth i’r dioddefwyr alw’r Heddlu.
Gan ddefnyddio teledu cylch cyfyng o ardal Uplands llwyddodd ditectifs i olrhain symudiadau'r dyn, a'i adnabod. Cafodd Cooke ei arestio yn ei gartref ar 12 Tachwedd.
Plediodd Cooke yn euog a chafodd ei ddedfrydu i bedair blynedd a hanner o garchar yn Llys y Goron Abertawe ar 15 Chwefror .
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Sioned Davies, “Profodd y dioddefwyr ddigwyddiad trawmatig o achos Cooke. Mae'n droseddwr peryglus ac rwy’n falch ei fod wedi cael dedfryd o garchar am ei weithredoedd.”