Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn a wnaeth ymosod ar ddyn arall ger clwb nos The Arch yng Nghastell-nedd ar 15 Gorffennaf 2022 wedi cael ei ddedfrydu i garchar am oes, gydag isafswm o 18 mlynedd, am lofruddiaeth.
Ymddangosodd Daniel Pickering, 34 oed, yn Llys y Goron Abertawe heddiw, ddydd Llun 13 Chwefror, lle cafodd ei ddedfrydu am lofruddio Matthew Thomas, 47 oed o Gastell-nedd.
Dywedodd yr Uwch-swyddog Ymchwilio, y Ditectif Brif Arolygydd Mark Lewis: “Roedd ymosodiad ffyrnig Daniel Pickering ar Matthew yn ddisynnwyr a direswm ac mae'n enghraifft arall o'r modd y mae yfed gormod o alcohol a chymryd gormod o gyffuriau Dosbarth A yn ysgogi ymddygiad ymosodol, sy'n arwain at ganlyniadau trasig i ddioddefwyr diniwed a'u teuluoedd.
“Rydym wedi gweld nifer o'r mathau hyn o lofruddiaethau yn Ne Cymru a ledled y DU.Gellid atal llofruddiaethau fel hyn pe bai pobl yn treulio amser yn myfyrio ar eu hymddygiad eu hunain.
“Hoffwn apelio ar bobl i ystyried eu hymddygiad ar ôl yfed alcohol a chymryd cyffuriau. Ydych chi'n mynd yn dreisgar? Oes gennych chi ffrindiau sy'n mynd yn dreisgar neu sy'n chwilio am drwbwl ar noson allan? Cymerwch gamau i addasu eich ymddygiad ac osgoi gwrthdaro”
“Rydym yn parhau i feddwl am deulu a ffrindiau Matthew ac rwy'n mawr obeithio y bydd y ddedfryd heddiw yn rhoi rhywfaint o gysur iddynt.”
Mae teulu Matthew wedi talu teyrnged iddo: “Mae saith mis wedi mynd heibio ers i Matthew gael ei lofruddio mewn ymosodiad ffyrnig a direswm ac eto, mae'n teimlo fel pe bai wedi digwydd ddoe.
“Mae pawb yn ei chael hi'n anodd dod i delerau â'r ffordd y bu farw ac i wneud synnwyr o'r ffaith bod dyn a oedd yn gwbl ddieithr iddo, wedi penderfynu cipio ei fywyd a'i ddyfodol oddi arno y noson honno, gan adael cymaint o ddistryw a thrawma.
“Gwnaethom eistedd drwy'r achos llys a gwrando ar sawl tyst yn rhannu manylion am yr ymosodiad erchyll. Mae pawb yn ei chael hi'n anodd prosesu lefel y trais a ddefnyddiwyd a'r ffaith bod Daniel Pickering wedi parhau i daro Matthew a churo ei ben â'i droed wrth iddo orwedd yn farw ar y llawr.
“Roedd Matthew yn berson hapus, positif a charedig, a oedd wrth ei fodd â bywyd a phobl. Roedd yn gymeriad, ac yn galon ac enaid pob digwyddiad. Dim ond 47 oed oedd Matthew, yn dad, mab, brawd a ffrind i lawer. Rydym yn gweld ei eisiau yn fawr, ac mae wedi colli allan ar gymaint dim ond yn y cyfnod byr ers ei farwolaeth. Rydym bob amser yn teimlo bod rhywun ar goll, a bydd hynny'n wir am byth.
“Fel teulu, rydym yn croesawu'r euogfarn a'r ddedfryd heddiw. Mae'n rhoi cysur i ni o wybod na fydd y llofrudd Daniel Pickering yn peri risg i'r cyhoedd am o leiaf 18 mlynedd.
“Nid ydych wir yn deall y gwaith anhygoel y mae pobl yn ei wneud nes i rywbeth sy'n newid bywyd, fel marwolaeth Matthew, ddigwydd. Rydym yn ddiolchgar iawn i'r tystion, y gwasanaethau brys a staff y GIG a wnaeth weithio'n ddiflino i geisio achub bywyd Matthew. Ni all geiriau ddisgrifio pa mor ddiolchgar rydym i'r rheini sydd wedi dod â llofrudd Matthew o flaen ei well ac wedi sicrhau dedfryd euog. Mae'r gefnogaeth barhaus rydym wedi ei chael gan yr heddlu wedi ein helpu i fyw drwy'r hunllef, ac mae gwybod bod rhywun yno bob amser am sgwrs wedi bod yn amhrisiadwy. Diolch i bawb sydd wedi bod yn gefn i ni drwy gydol y cyfnod ofnadwy hwn.
“Rydym yn gobeithio, ar ôl heddiw, y gallwn symud ymlaen a dechrau galaru a chofio am Matthew.”