Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:23 23/02/2023
Ychydig cyn 8.30am ar 13 Tachwedd 2022, cafodd swyddogion eu galw i adroddiad o drywanu mewn tŷ ym Mhenydarren, Merthyr Tudful.
Cafodd menyw 80 oed ddau glwyf trywanu ar ei harddwrn, yr oedd angen eu pwytho a thorrodd ei harddwn. Cafodd dyn 43 oed glwyf trywanu i'w frest, a dyllodd yr ysgyfaint ac roedd ei fywyd yn y fantol ar un adeg.
Ffodd Patrick (Alan) Shaw yng nghar y dioddefwr, ond daethpwyd o hyd iddo a chafodd ei arestio yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.
Yn dilyn ymchwiliad trylwyr gan dditectifs, plediodd Shaw yn euog i ddau gyhuddiad o Ymosodiad S18 (clwyfo'n fwriadol), a chafodd ei ddedfrydu ddoe (dydd Mercher 22 Chwefror) i chwe blynedd a hanner o garchar yn Llys y Goron Merthyr Tudful. Cafwyd y dyn 53 oed hefyd yn euog o fod ag arf bygythiol yn ei feddiant ac o gymryd cerbyd heb ganiatâd.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Matt Pryce, arweinydd yr achos:
“Bydd Patrick Shaw yn treulio cryn dipyn o amser yn y carchar a dyna mae’n ei haeddu am yr ymosodiad ciaidd hwn ar deulu yn eu cartref eu hunain.
“Heb gymdogion gwyliadwrus ac ymdrechion dewr yr heddlu a staff y gwasanaeth ambiwlans a ymatebodd i'r digwyddiad, mae'n bosibl y byddai'r canlyniad wedi bod yn wahanol i'r dioddefwr.
“Gobeithio y bydd y ddedfryd yn rhoi rhywfaint o gysur i'r teulu ac yn nodi'n glir na chaiff y defnydd o unrhyw arf ei oddef yn ein cymunedau.”