Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd Luke Summers, 29 oed, ei ddedfrydu i chwe blynedd yn y carchar am ymosod yn ddireswm ym Merthyr Tudful.
Dywedwyd ddoe, yn Llys y Goron Merthyr Tudful, fod Summers wedi targedu'r fenyw ar 19 Hydref, 2022.
Dangosodd teledu cylch cyfyng y dioddefwr yn rhoi ei biniau allan, y tu allan i'w thŷ tra bod Summers yn ei gwylio o'r tu ôl i wal. Pan oedd wedi dychwelyd i'r tŷ, curodd Summers ar y drws a gorfodi ei ffordd i mewn. Dyrnodd y dioddefwr mor galed nes iddi syrthio i'r llawr, a mynnodd arian ganddi.
Ffodd Summers, o ardal y #Gurnos, gydag arian, gemwaith a ffôn symudol. Ceisiodd ddileu'r data a honni mai ei ffôn ef ydoedd.
Cafodd ymchwiliad ei lansio ar unwaith gan dditectifs a chafodd Summers ei arestio llai na dwy awr yn ddiweddarach. Cafodd ei gyhuddo a'i gadw yn y ddalfa.
Ddoe, ddydd Mercher 22 Chwefror, dedfrydodd barnwr ef i chwe blynedd yn y carchar a phedair blynedd arall ar drwydded estynedig.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Mike Snare, arweinydd yr achos:
“Rydym yn falch iawn o fod wedi gallu dwyn Luke Summers o flaen ei well a chymryd unigolyn peryglus oddi ar y strydoedd.
“Targedodd Summers fenyw yn ei saithdegau hwyr yn fwriadol i fodloni ei drachwant ei hun, gan ei gadael wedi’i hanafu ac yn llawn pryder.
“Hoffem ddiolch i’r dioddefwr yn yr achos hwn am ei gydweithrediad ar bob cam ac rydym yn mawr obeithio y gall y ddedfryd sylweddol hon helpu i roi rhywfaint o gysur iddi yn dilyn y profiad gofidus hwn.
“Nid ydym yn ymddiheuro am fynd ar ôl troseddwyr treisgar fel Summers a byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod lladron yn cael eu rhoi gerbron y llysoedd a’u dwyn o flaen eu gwell.”