Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Tarian yn gyfrifol am fynd i'r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol ledled de Cymru a rheoli'r bygythiad gan droseddau fel cyflenwi arfau tanio, llinellau cyffuriau, camfanteisio'n rhywiol ar blant, seiberdroseddau a chaethwasiaeth fodern.
Yn ystod 2022, arweiniodd ymchwiliadau gan Tarian at 269 o arestiadau, 211 o droseddwyr yn cael eu carcharu am gyfanswm o 763 o flynyddoedd a thua 449kg o gyffuriau yn cael eu tynnu oddi ar y strydoedd. Mae Tarian wedi cefnogi heddluoedd ac asiantaethau partner eraill hefyd a arweiniodd at arestiadau a dedfrydau ychwanegol.
Defnyddiodd ein Huned Troseddau Economaidd Ranbarthol bwerau o dan y Ddeddf Enillion Troseddau er mwyn cael gorchmynion atafaelu yn erbyn troseddwyr sydd wedi'u heuogfarnu o £4,467,434.12, cadw bron i £400k mewn arian parod a chael asedau ymataliol o tua £4 miliwn gan droseddwyr.
Drwy gydol 2022, helpodd ein Tîm Llinellau Cyffuriau ein tri heddlu yn ne Cymru ar sawl ymchwiliad, a helpu i amddiffyn oedolion a phlant sy'n agored i niwed rhag cael eu camfanteisio gan gangiau cyffuriau.
Ymhlith uchafbwyntiau'r ymchwiliadau roedd:
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Nick Wilkie, pennaeth yr uned troseddau cyfundrefnol:
“Bu'n flwyddyn hynod lwyddiannus arall i Tarian yn ein hymdrechion i fynd i'r afael â throseddau cyfundrefnol yn y rhanbarth.
"Diolch i waith caled ein swyddogion a'n hasiantaethau partner, treuliodd nifer mawr o droseddwyr cyson y Nadolig yn y carchar, ac rydym wedi cymryd symiau sylweddol o gyffuriau ac arfau tanio anghyfreithlon oddi ar y strydoedd.
"Rydym yn edrych ymlaen at barhau â'r frwydr yn erbyn troseddau difrifol a chyfundrefnol yn 2023, a diogelu pobl ledled de Cymru rhag niwed."