Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:53 02/02/2023
Mynychodd Heddlu De Cymru adroddiad o ffrwydrad a ddigwyddodd mewn tŷ yn Nowlais tua 10.30 neithiwr (dydd Mercher 1 Chwefror).
Dywedodd yr Arolygydd Plismona Lleol, Jon Duckham:
“Cafodd sawl eiddo yn Glanmor Gardens eu gwagio yn sgil y difrod a achoswyd.
“Aethpwyd â dau berson, dyn 19 oed a merch 18 oed, i'r ysbyty ag anafiadau difrifol.
“Rydym yn meddwl am y rhai yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiad hwn.
“Hoffwn ddiolch i aelodau cymuned Dowlais am eu hamynedd, eu cymorth a'u dealltwriaeth i'r rhai yr effeithiwyd arnynt a'n staff yn y lleoliad.”
Rydym wrthi'n ymchwilio i achos y ffrwydrad ac yn gweithio'n agos gyda'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.