Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dedfrydwyd Paul Thomas, 45 oed, i wyth mlynedd yn y carchar yn Llys y Goron Caerdydd fis diwethaf. Cafodd hefyd Orchymyn Atal Niwed Rhywiol a'i roi ar y gofrestr troseddwyr rhyw am oes.
Yn dilyn treial pedwar diwrnod, canfu rheithgor fod Thomas yn euog o ymosodiad drwy dreiddiad.
Ym mis Ebrill 2021, ymosododd Thomas yn rhywiol ar fenyw tra roedd hi'n cysgu. O fewn oriau i'r drosedd, arestiwyd Thomas a chafodd ei gyhuddo ar ôl ymchwiliad trwyadl.
Dywedodd y Cwnstabl Matt Pryce:
“Rwy'n falch y bydd Thomas yn mynd i'r carchar am gyfnod sylweddol o amser. Rydym yn croesawu'r ddedfryd oherwydd mae'n dangos neges glir na chaiff gweithredoedd o'r fath eu goddef.
“Roedd yn brofiad erchyll i'r fenyw, ond mae hi, gyda chefnogaeth ei theulu, wedi dangos cryfder a dewrder aruthrol wrth roi gwybod i'r heddlu a chefnogi ei ymchwiliad. Hoffwn ddiolch i'r dioddefwr dewr am ei chryfder, ac rwy'n gobeithio y bydd yr euogfarn yn rhoi rhywfaint o gysur iddi ar ôl ei phrofiad erchyll.
“Mae Heddlu De Cymru yn annog unrhyw un sy'n sy'n dioddef neu'n gweld ymosodiad rhywiol i gysylltu â ni – ni fyddwn yn goddef y fath droseddau difrifol.”
Gellir cael help, cyngor a chymorth gan Ganolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol arbenigol. Ewch i https://www.newpathways.org.uk/cy/ neu https://bipcaf.gig.cymru/ein-gwasanaethau/iechyd-rhywiol/gwasanaethau-a-ddarperir/canolfan-cyfeirio-ymosodiadau-rhywiol-ynys-saff/ am ragor o wybodaeth.